Datganiadau i'r Wasg

Brand newydd bara lawr

Lansio brand bara lawr newydd yng Nghaerdydd i apelio at y cwsmer iau, metropolitan

Bydd arddangosfa newydd, Gwymon yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 9 Mehefin 2013, ac yn ail-frandio, ac ail-becynnu’r bara lawr traddodiadol ar gyfer y cwsmer modern sydd am fyw bywyd iach.

 

Gwymon yw arddangosfa ddiweddaraf yr artist o Abertawe Dan Rees. Fe ddatblygodd o’i flas am fwyd wedi’i wneud o wymon, a bydd yn archebu’r cynnyrch Cymreig yn rheolaidd o’i stiwdio ym Merlin.

 

Mae gwymon wedi bod yn ganolog i fwyd Asia ers miloedd o flynyddoedd ac mae cwsmeriaid y gorllewin bellach yn dod yn ymwybodol o daioni cynnyrch sy’n llawn haearn, protein a fitaminau. Ond cred Dan Rees taw cyfyng yw apêl bara lawr o hyd Welsh a gaiff ei hyrwyddo a’i werthu fel cynnyrch ‘treftadaeth’ neu anarferol.

 

Yn ei arddangosfa, mae’r artist yn herio’r categoreiddio cul hwn trwy ddefnyddio strategaethau byd hysbysebu i ail-frandio bara lawr ar gyfer y cwsmer ifanc, metropolitan, cyfoes. Trwy gyfrwng ystod eang o gyfryngau – o ffotograffiaeth, dylunio pecyn, a cherflunwaith – mae Dan Rees yn rhoi bara lawr Cymreig ar flaen y gad yn y chwyldro bwyd gwyrdd newydd.

 

“Mae gen i ddiddordeb mewn edrych ar ragdybiaeth o hunaniaeth Cymru gyda bod yn Geltaidd yn fath o draddodiad,” meddai Dan Rees. “Caiff yr un cynnyrch (gwymon) ei farchnata a’i werthu yn Japan lle caiff ei weld o flaen ei oes bron.”

 

Bydd bwyty Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy’n cael ei rhedeg gan gwmni Elior, yn cynnig bwydydd yn cynnwys bara lawr am bythefnos o’r 9fed o Fehefin, sef y diwrnod bydd Gwymon yn agor i’r cyhoedd. Cefnogir yr arddangosfa, fydd yn cau ar ddydd Sul, 1 Medi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.