Datganiadau i'r Wasg

Tecstiliau'r Amgueddfa Wlân yn Eisteddfod yr Urdd

Mae casgliadau Amgueddfa Wlân Cymru yn cael lle amlwg ar stondin Amgueddfa Cymru yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghilwendeg eleni.

Bydd tecstiliau ddoe, heddiw ac yfory i’w gweld ar y stondin, gyda phwyslais arbennig ar roi cyfleoedd i’r ymwelwyr i gymryd rhan eu hunain. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i wau a gwehyddu ac i wisgo dillad o’r 60au. Ddydd Mercher a Ddydd Iau bydd Carys Hedd ar y stondin yn uwch gylchu hen ddillad i fod yn ddillad cyfoes. Ddydd Sadwrn bydd y Clwb Gwau, sydd fel arfer yn cwrdd yn yr Amgueddfa, yn dysgu ymwelwyr i’r stondin sut i wau cacennau o wlân.

Hefyd yn cael eu harddangos ar y stondin bydd amrywiaeth o engreifftiau o’r cynlluniau tecstiliau gorau dros y blynyddoedd ynghyd â chynnyrch gwlân Cymru. Bydd gwaith celf cyfoes, sydd fel arfer i’w weld yr Amgueddfa Wlân Cymru, hefyd i’w weld ar y stondin, gwaith sydd wedi cael ei ysbrydoli gan yr Amgueddfa a’r hanes mae’n ei hadrodd. Mae hyn yn cynnwys tecstiliau wedi’u gwehyddu gan Laura Thomas, printiadau gan Julia Griffiths Jones, a ffrwyth llafur prosiectau sydd wedi cael eu cynnal ar y cyd rhwng yr Amgueddfa a myfyrwyr ysgolion a cholegau.

Dywedodd Ann Whittall, Rheolwr Amgueddfa Wlân Cymru: “Mae’r Eisteddfod dafliad carreg o’r Amgueddfa yma yn Nre-fach Felindre eleni, rhywbeth nad sy’n digwydd bob blwyddyn wrth gwrs. Gan obeithio y gwneith y gweithgareddau ar y stondin godi chwant ar yr ymwelwyr, tra eu bod yn yr ardal, i ymweld â’r Amgueddfa ei hun, sydd am ddim, i gwrdd â’n crefftwyr, i fwynhau taith dywys ac am luniaeth yn y café.

Ychwanegodd: “Mae’r casgliadau yn yr Amgueddfa yn adrodd stori Cymru a chasgliadau’r bobl ydynt felly gobeithio y gwneith ymwelwyr i’r Eisteddfod achub ar y cyfle, wrth ymweld ag un digwyddiad diwylliannol, i ddod i ddysgu hyd yn oed mwy am eu treftadaeth.”

Mae lleoliad stondin Amgueddfa Cymru wedi’i leoli i’r chwith wrth i chi ddod i’r maes drwy’r brif fynedfa.

 -DIWEDD- 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Amgueddfa ar 029 2057 3070