Datganiadau i'r Wasg

Gweithdy Am Ddim i Athrawon Cynradd gan Brifardd

Ar Ddydd Gwener Gorffennaf 12 bydd Mererid Hopwood yn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol i athrawon ysgolion cynradd yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ac hynny yn rhad ac am ddim i’r athrawon.

Bydd y gweithdy, ‘Gwlân a Geiriau Mân’, yn trafod ffyrdd o droi ymweliad ag amgueddfa yn brofiad creadigol i athrawon a disgyblion trwy ystyried sut i ddefnyddio stori’r diwydiant gwlân yn sbardun ar gyfer sesiynau ysgrifennu creadigol yn y dosbarth.

Yn dilyn taith o gwmpas yr amgueddfa, bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar rai o brofiadau’r amgueddfa - o fref y ddafad a sŵn y ffatri i’r blancedi a’r dillad gorau - er mwyn cyflwyno dulliau ysgrifennu creadigol.

Darperir syniadau ymarferol ar gyfer gwersi a all gynorthwyo disgyblion i fwynhau rhoi eu llais eu hunain ar bapur a bydd y gweithdy’n gyfrwng i ddysgu llythrennedd, treftadaeth a chreadigrwydd.

Bydd y gweithdy yn dechrau am 10 y bore tan 3 y prynhawn. Mae llefydd yn gyfyngedig felly rhaid archebu lle trwy gysylltu â Joanna Thomas, Swyddog Addysg Amgueddfa Wlân Cymru ar joanna.thomas@amgueddfacymru.ac.uk  neu ar  02920 573070.

-DIWEDD-

  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Amgueddfa ar (029) 2057 3070