Datganiadau i'r Wasg

Cyfle prin i weld gwaith Keith Vaughan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2013, bydd arddangosfa newydd – Keith Vaughan: Cyfansoddwr y Ffigwr a’r GofodDarluniau, Printiau a Ffotograffau, 1935-1962 – yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae ar daith o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Roedd Keith Vaughan (1912-1977) yn un o artistiaid Prydeinig mwyaf ei genhedlaeth, ac mae’r arddangosfa yn cynnwys printiau, darluniau a ffotograffau o’i waith. Roedd yn gyfaill i Graham Sutherland yn y 1940au ac yn ymwneud â’r mudiad Neo-Ramantaidd newydd oedd yn prysur fagu nerth, ynghyd ag artistiaid fel John Minton a John Craxton. Ynghyd â Francis Bacon a Lucian Freud, daeth Vaughan yn un o werinwyr yr arfer o baentio ffigwr ym Mhrydain yn y 1950au a’r 1960au.

 

Y ffigwr gwrywaidd mewn tirlun yw canolbwynt Cyfansoddwr y Ffigwr a’r Gofod. Dyma hoff thema Vaughan ac mae’r arddangosfa’n rhoi golwg ffres a gwreiddiol i ni o’r artist hwn a ddysgodd ei grefft ei hun. Mae rhai o’r gweithiau’n cael eu harddangos am y tro cyntaf, ac wedi’u dewis o eitemau yng nghasgliad Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth – casgliad sy’n cynnwys gweithiau celf a dylunio pwysig, gwaith ar bapur a cherameg yn bennaf. Yn y casgliad hwn mae bron i 500 o eitemau gwahanol sy’n berthnasol i Keith Vaughan.

 

Bydd detholiad arbennig o ffotograffau Keith Vaughan yn cael eu dangos hefyd yn Amgueddfa genedlaethol Caerdydd. Tra’n ŵr ifanc yn gweithio fel artist masnachol yn asiantaeth hysbysebu Lintas (1931-39) roedd ffotograffiaeth yn un o’r cyfryngau cyntaf i Vaughan ddechrau ymddiddori ynddo. Mae casgliad Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys esiamplau allweddol o’i waith ffotograffig gan gynnwys printiau, a gasglwyd gan yr artist mwy na thebyg, er cof am ei frawd Richard (Dick) a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd ym 1940. Dick’s Book of Photos oedd Teitl Vaughan ar y gwaith. Yn y ffotograffau o’r 1930au gwelwn gnewyllyn gyrfa ddiweddarach Vaughan fel paentiwr, yn enwedig yn y motiff cyson o ‘ymgynnull ffigurau’.

 

Hefyd yn yr arddangosfa gellir gweld cyfran helaeth o waith print Vaughan, yn ogystal â phortffolio o ddarluniau heb eu harddangos o’r blaen a chopïau personol yr artist o ddarluniau a dyluniadau clawr ar gyfer amryw lyfrau.

 

Meddai Colin Cruise, Darlithydd Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth a churadur yr arddangosfa:

 

“Mae’r gweithiau anghyfarwydd yma yn rhoi golwg o’r newydd i ni ar ddychymyg Vaughan a’i ddull o weithio. Byddant yn gyfle i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ganfod elfennau newydd a chyffrous yng ngwaith Vaughan”.

Ychwanegodd ei bod “yn bleser gweithio’n agos gyda churaduron Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan wybod y bydd casgliad Vaughan ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyrraedd cynulleidfa ehangach yng Nghymru trwy gyfrwng yr arddangosfa.”

 

Cynhyrchwyd llyfr llawn lluniau i ategu’r arddangosfa. Fe’i cyhoeddwyd gan Sansom & Co, ac mae’n cynnwys tri thraethawd wedi’u seilio ar ymchwil o’r newydd i waith yr artist a’i gyfnod, a hynny gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Derek Williams, Ymddiriedolaeth Hargreaves a Ball a Phrifysgol Aberystwyth.

 

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 24 Tachwedd 2013. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.