Datganiadau i'r Wasg

Cywaith gan Amgueddfa Wlân Cymru ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd Porth Tywyn

Mae disgyblion blwyddyn naw Ysgol Glan-y-Môr, Porth Tywyn, a disgyblion ysgolion cynradd y dalgylch: Ysgol Gynradd Pwll, Ysgol y Castell ac Ysgol Gynradd Penbre, wedi cwblhau cywaith dros fis o amser, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Wlân Cymru i greu croglun anferth. Ddoe (dydd Iau 18 Gorffennaf), cyflwynwyd y gwaith i’r Amgueddfa gan y disgyblion a bydd yn cael ei arddangos yn Oriel y Gymuned yn  Amgueddfa Wlân Cymru rhwng yr ail o Awst a’r ail o Fedi.

Bu’r disgyblion yn ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru ddechrau Mehefin, gyda Chyfeillion yr Amgueddfa yn cynorthwyo gyda’r costau, i ddysgu am y diwydiant gwlân a chymryd rhan mewn gweithdy creu ffelt. Nôl yn yr ystafell ddosbarth, defnyddiodd disgyblion Ysgol Glan-y-Môr eu gwybodaeth a’u sgiliau newydd i ddylunio croglun mawr. Yna defnyddiodd y disgyblion cynradd ac uwchradd dechneg ffeltio â nodwydd ac offer arbenigol a ddarparwyd gan yr Amgueddfa.

Mae’r cywaith hwn wedi cael ei redeg ar y cyd rhwng Joanna Thomas, Swyddog Addysg Amgueddfa Wlân Cymru a Susan Quirk, Arweinydd Addysg Adran Alwedigaethol Ysgol Glan-y-Môr gyda chymorth Rhian Protheroe, myfyriwr gradd Ffasiwn a Thecstilau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

 Ar ôl cael ei arddangos yn Amgueddfa Wlân Cymru, bydd y croglun yn mynd ar daith o gwmpas yr ysgolion cynradd cyn ymgartrefu’n barhaol yn Ysgol Glan-y-Môr.

 Meddai Joanna Thomas, Swyddog Addysg Amgueddfa Wlân Cymru: “Cyn i’r disgyblion ymweld â’r Amgueddfa, doedden nhw erioed wedi clywed am y lle. Roedd yn gyfle iddyn nhw fwynhau profiadau newydd a deall mwy am y diwydiant gwlân yng Nghymru. Mae’r gwaith wedi cyfrannu at elfen Sgiliau Allweddol eu cymwysterau Bagloriaeth Cymru ac wedi rhoi cychwyn cadarn iddyn nhw ar y cwrs BTEC Tecstilau Lefel 2.

 “Cymerodd y disgyblion ran ym mhob rhan o’r broses, o’r syniadau a gasglwyd yn y lle cyntaf i’r dylunio cychwynnol, yna dylunio’r croglun a chreu’r gwaith. Er mwyn gwneud hyn roedd rhaid iddyn nhw feithrin sgiliau cyfathrebu a chydweithio cryf. Drwy gydol y gweithdy undydd a’r ymweliad â’r Amgueddfa, bu’r disgyblion uwchradd yn cefnogi’r rhai cynradd ac yn cynorthwyo i baratoi’r ffordd iddynt ar gyfer symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Roedd yn gyfle hefyd i’r disgyblion uwchradd feithrin eu sgiliau arwain.”

 “Yn y gweithdy, roedd cyffro ac awydd y disgyblion i gymryd rhan yn heintus – roedd y sesiynau’n rhai dwys a dangosodd y disgyblion y gallu i ganolbwyntio, penderfynoldeb a balchder yn eu gwaith. Oherwydd natur gydweithiol y cywaith roedd modd i’r ysgolion cynradd, Ysgol Glan-y-Môr, y myfyriwr ffasiwn Rhian Protheroe (cyn-ddisgybl yn ysgol Glan-y-Môr) ac Amgueddfa Wlân Cymru ddod at ei gilydd i ddatblygu partneriaeth a’r gobaith yw y bydd yn parhau.”

 Meddai Susan Quirk, Arweinydd Addysg yn y Gyfdran Alwedigaethol: “Mae wedi bod yn gywaith gwych sydd wedi cynnig cyfleoedd newydd i’n disgyblion mewn cymaint o ffyrdd. Maent wedi dysgu cymaint drwy weithio gyda’i gilydd i ddylunio a chreu’r croglun. Roedd y ‘briff byw’ a’r ffaith bod y gwaith yn mynd i gael ei arddangos yn yr Amgueddfa yn hwb ychwanegol i’r disgyblion. Roedd yn bleser gweld y disgyblion yn cydweithio’n frwd. Yn olaf, diolch i Joanna, y Swyddog Addysg, a’r Amgueddfa am drefnu’r cyfan – fydden ni ddim wedi gallu fforddio’r offer arbenigol.’

 

Dyma rai sylwadau gan y disgyblion:

“Rwy’n falch iawn o fy ngwaith”

“Rydyn ni wedi cael diwrnod GWYCH”

“Dylen ni fod yn falch iawn o’n hunain, mae’n waith gwych”

“Diolch, rydyn ni wedi cael dau ddiwrnod gwych yn ymweld â’r Amgueddfa ac yn y gweithdy”

“Ydyn ni’n mynd i wneud rhywbeth tebyg eto?”

 

-DIWEDD-

 

Ffoniwch yr Amgueddfa ar (029) 2057 3070 am fwy o wybodaeth.

 

Nodiadau i olygyddion

Roedd y project hwn yn rhan o Weddnewid Dyfodol Plant, strategaeth yr Amgueddfa ar gyfer creu llwybrau i gyfranogiad diwylliannol.