Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Gwaith Brunel yng Nghymru yn Amgueddfa Wlân Cymru

 Bydd arddangosfa ar waith Brunel yng Nghymru i’w gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre o ddydd Sadwrn 17 Awst tan ddydd Sadwrn 9 Tachwedd, yn edrych ar reilffyrdd, pontydd a morgloddiau pwysig y peiriannydd enwog Isambard Kingdom Brunel (1806 – 1859) yng Nghymru.

 

Mae mynediad am ddim i’r arddangosfa, sy’n canolbwyntio ar ddyfeisgarwch Brunel a sut y defnyddiodd beirianneg i oresgyn rhwystrau’r tirwedd i ledaeniad systemau trafnidiaeth, o Sir Benfro i ororau Gwent.

Dywed rhai taw Isambard Kingdom Brunel oedd peiriannydd rheilffordd mwyaf ei oes - mwyaf unrhyw oes. Adeiladodd bump ar hugain o reilffyrdd, dros gant o bontydd (gan gynnwys pum pont grog), wyth system pier a doc, tair llong ac ysbyty faes prefab i’r fyddin. Mae pob elfen o’i waith i’w weld yng Nghymru – yn rheilffyrdd, pontydd, dociau a llongau teithwyr anferth hyd yn oed.

Ganwyd Brunel yn Portsea ar 9 Ebrill 1806 ac wedi gweithio fel peiriannydd cynorthwyol ar broject ei dad i adeiladu’r twnnel tanddwr cyntaf o dan Afon Tafwys, cafodd ei benodi’n brif beiriannydd Rheilffordd Great Western ym 1833. Ond doedd Brunel ddim am adeiladu rheilffordd o Lundain i Fryste – roedd am ei hymestyn i Gymru.

Er bod y llinell i’r dwyrain o Abertawe wedi agor erbyn haf 1850, cymerodd chwe mlynedd arall i gwblhau’r adran orllewinol, ond dyma ei hagor yn golygu bod cyswllt uniongyrchol rhwng Llundain a’r Gorllewin am y tro cyntaf.

Mae gan Brunel nifer o gysylltiadau eraill â Chymru. Ymhlith y mwyaf nodedig mae’r bont ar draws Afon Gwy yng Nghas Gwent – strwythur ar goesau haearn bwrw mawr – a’r draphont 37 bwa dros Afon Tawe yng Nglandŵr, Abertawe – y draphont bren hiraf iddo ei hadeiladu.

Un o greadigaethau mwyaf diddorol Brunel yw’r gyfres o fwtresi hedegog ar draws y trac yn Llansamlet, tebyg iawn i’r bwtresi ar eglwysi cadeiriol. Cawsant eu hadeiladu i atal yr argloddiau rhag llithro dros y trac mewn glaw trwm neu dywydd garw.

Bu hefyd yn flaenllaw wrth ddylunio Rheilffordd Cwm Tâf, un o’r prif draffyrdd fyddai’n cario glo’r Rhondda i Gaerdydd. Ef oedd yn gyfrifol hefyd am arallgyfeirio Afon Taf o gyffiniau’r ardal sy’n cael ei adnabod heddiw fel Parc yr Arfau, gan liniaru tipyn ar y problemau llifogydd yno. Mae’r draphont ar draws Afon Taf yng Nghoed Goetre yn un o’i strwythurau mwyaf prydferth.

Ym 1851 dyluniodd Brunel Reilffordd Cwm Nedd, ac fel rhan o’r project adeiladodd Draphont Cwmdâr i gludo glo ar hyd y dyffryn. Yn anffodus, cafodd y strwythur ei ddymchwel ym 1947, yn fuan wedi’r Ail Ryfel Byd.

Er nad oedd yn Gymro ei hun, mae cysylltiadau Brunel â’r wlad yn parhau’n gryf.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Wlân Cymru, sydd ar agor bob dydd o 10am i 5pm dros yr haf ac ar gau ar ddydd Sul a dydd Llun rhwng Hydref a Mawrth.