Datganiadau i'r Wasg

WORKTOWN - lluniadau gan Falcon Hildred

Tirluniau diwydiannol "Unigryw" yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Lechi Cymru                         22.7.2013 – 6.1.2014

Falcon Hildred © Yr artist

© Yr artist

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn llwyfannu arddangosfa baneli wych o baentiadau a darluniau hynod yr artist diwydiannol o Flaenau Ffestiniog, Falcon Hildred.

Ag yntau wedi byw ym Mlaenau Ffestiniog ers 1969, mae Falcon Hildred wedi mynd ati i geisio creu cofnod gweledol o adeiladau’r diwylliant diwydiannol sy’n prysur ddiflannu. Dros yr hanner canrif diwethaf mae wedi cofnodi toreth o adeiladau a thirluniau mewn darluniau manwl ond llawn hanes. Tra’n cynhyrchu gweithiau esthetig, hanesyddol a chymdeithasol werthfawr, mae wedi cysegri’i yrfa i gofnodi adeiladau a thirluniau diwydiant y 19eg a’r 20fed ganrif. Fel yr esbonia:

‘Y peth am adeiladau yw eu bod nhw’n ymwneud â phobl. Mae popeth a wnawn mewn bywyd naill ai’n cael ei wneud mewn neu o gwmpas adeiladau. Byddwn yn dathlu, yn addysgu, yn byw, yn gweithio, yn gwella, yn cystadlu, yn storio – byddwn yn gwneud popeth mewn neu o gwmpas adeiladau, ac maen nhw felly yn ymgorffori ein holl anghenion, ein holl obeithion, ein credoau, ein hofnau. Nhw yw symbolau ein gwerthoedd, o’r bwthyn i’r eglwys gadeiriol, symbolau’r hyn sydd ei eisiau arnom a’r hyn a gredwn. Felly y perygl ydyw, pan ddinistriwn adeilad, ein bod ni hefyd yn dinistrio rhyw elfen ohonom ni ein hunain.”

“The thing about buildings is that they’re about people.’, says Falcon. “Everything we do in life is either in or around buildings. We celebrate, we teach, we live, we work, we heal, we compete, we store – everything is done in and around buildings, and they therefore embody all our needs, all our hopes, our beliefs, our fears. They are the symbols of all our values, really, in civilisation, from cottage to cathedral. They are the symbols of what we want and what we believe. So the risk is that when you destroy a building you risk destroying something of ourselves.”

Mae’r arddangosfa, a ddangoswyd gyntaf gan Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ironbridge Gorge, yn gofnod o orffennol diwydiannol Cymru a Lloegr, ond bydd y gweithiau yn Amgueddfa Lechi Cymru yn canolbwyntio ar y diwydiant llechi. Roedd llechi gogledd Cymru yn enwog am eu safon, yn enwedig llechi toi a chlytiau, ac ar ei anterth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y diwydiant yn allforio llechi i bedwar ban byd. Newidiodd y diwydiant gymeriad gweledol nifer o ‘drefi gwaith’ Prydain, gan doi trefi melino Sir Gaerhirfryn a Swydd Efrog, pentrefi glofaol cymoedd y De, tai ledled Llundain a nifer o drefi eraill.

Creodd y diwydiant llechi ei ‘drefi gwaith’ ei hun hefyd yng ngogledd orllewin Cymru, gyda threfi a phentrefi wedi’u hadeiladu o lechi yng nghanol tirlun wedi’i siapio gan chwarelu, cloddio, prosesu a chludo’r deunydd hwnnw. Mae astudiaethau Falcon o’r diwydiant wedi canolbwyntio’n bennaf ar Flaenau Ffestiniog – y mwyaf o’r trefi llechi ac un o’r ardaloedd mwyaf cynhyrchiol gyda gweddillion ugain chwarel yn y cyffiniau. Cyn dymchwel ac adleoli’r rhes o dai chwarelwyr o Danygrisiau ym 1998, cafodd Falcon HIldred ei gomisiynu gan Amgueddfa Lechi Cymru i gofnodi’r teras yn ei safle gwreiddiol.

Crëwyd yr arddangosfa gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ironbridge Gorge gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r comisiwn bellach wedi caffael cyfanswm ocCn 600 a mwy o ddarluniau gwreiddiol o adeiladau a thirluniau diwydiannol., Dyma Ysgrifennydd y ComisiwnA, Dr Peter Wakelin, yn esbonio:

“Mae gwaith bywyd Falcon yn gofnod unigryw o dirluniau diwylliant a diwydiant y dosbarth gweithiol. Casgliad ydyw sy’n adnodd ardderchog i unrhywun â diddordeb yn y dreftadaeth hon, gyda’r mwyafrif bellach wedi diflannu ers iddynt gael eu cofnodi. Bydd yr arddangosfa hon a’r gyfrol gymar yn dod a’i waith, a’r hanes diddorol a gofnodir ynddo, at sylw cynulleidfa ehangach.”

Mae’r arddangosfa i’w gwelc tan Ionawr 6ed 2014. Mynediad am ddim. Gellir gweld yr arddangosfa yn yr amgueddfa hyd at 6 Ionawr 6ed 2014

Mae’r amgueddfa ar agor yn ddyddiol hyd at Hydref 30 ac yna Dydd Sul – Dydd Gwener, drwy’r gaeaf, Mae Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis ar agor yn ddyddiol rhwng 10am – 4pm

- Diwedd -

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Julie Williams ar 02920 573707Am wybodaeth pbellach cysylltwch a julie.williams@museumwales.ac.uk  neu Nicola Roberts ar 01970 621248 ar nicola.roberts@rcahmw.gov.uk