Datganiadau i'r Wasg

Mae’n swyddogol – dros 2,000,000 wedi ymweld â’r Glannau

Y penwythnos diwethaf (Sadwrn 31 Awst a Sul 1 Medi 2013), llwyddodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i gyrraedd nod 2 filiwn o ymweliadau, dim ond wyth mlynedd ar ôl agor ei drysau am y tro cyntaf ym mis Hydref 2005.

Marie a Richard Lloyd o Bort Talbot gyda’u merched Manon (3 oed) a Nia (1 oed) yn mwynhau’r penwythnos.

Geraint Jones a’i blant Nia (8 oed), Griff (7 oed) ac Evan (3 oed) o Aberdâr yn mwynhau’r cacennau bach coch.

Ar gyfartaledd, mae’r Amgueddfa’n croesawu 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn o Abertawe, Cymru a thu hwnt, ac mae’n amlwg fod yr Amgueddfa’n parhau i wneud argraff ar y map diwylliannol.

Mae’n cynnig cyfle i ymwelwyr â’r adeilad eiconig ddysgu am hanes arloesi a diwydiant yng Nghymru dros y tri chan mlynedd diwethaf hyd heddiw.

Mae dros 100 o arddangosiadau clyweledol yn yr Amgueddfa, gan gynnwys 36 sgrin ryngweithiol ddi-ail a rhai gwrthrychau mawr o Gymru fu unwaith ar flaen y gad ym maes technoleg. Yn eu plith mae atgynhyrchiad o’r locomotif stêm cyntaf erioed, gwasg friciau ac un o’r unig wagenni glo sy’n dal i fodoli.

I ddathlu’r achlysur, cafodd ymwelwyr â’r Amgueddfa dros y penwythnos fwynhau cacennau bach coch llachar.

Wrth siarad am y newyddion, dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa Steph Mastoris: “Mae’n anrhydedd i ni gyrraedd y nod arbennig hwn o 2 filiwn o ymwelwyr yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

“Yn ogystal â chynnig diwrnod allan diddorol yn rhad ac am ddim, yr Amgueddfa yw un o atyniadau mwyaf Abertawe sydd yn ei thro’n ychwanegu at arlwy diwylliannol y ddinas ac yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o’i hadfywio.

“Mae’n bleser gennym ddarparu arddangosfeydd a digwyddiadau o ansawdd yn ogystal â gwasanaeth i gwsmeriaid heb ei ail sy’n sicrhau fod ymwelwyr yn dychwelyd atom dro ar ôl tro.                                                                                                                                        

“Mae’r llwyddiant yma’n ffordd arbennig o ddathlu diwedd haf o hud – ac edrych tua’r dyfodol i barhau â’r llwyddiant.”

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio: “Mae croesawu dwy filiwn o ymwelwyr mewn wyth mlynedd yn llwyddiant ysgubol.

"Mae’n brawf o ansawdd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a hefyd o holl waith caled y staff yno sy’n parhau i godi ei phroffil a denu ymwelwyr o bob oed.

“Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n ategu ein cyfleusterau ac yn helpu i atgyfnerthu statws Abertawe fel dinas ddiwylliannol flaengar.

"Ochr yn ochr ag atyniadau megis Amgueddfa Abertawe ac arddangosfa Dylan Thomas, mae’n cyfrannu’n sylweddol at arlwy diwylliannol y ddinas.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion: ffeil o ffeithiau

Agorodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ei drysau yn swyddogol am y tro cyntaf ar ddydd Mercher 17 Hydref 2005 a byth ers hynny mae ymwelwyr wedi heidio yma i fwynhau casgliadau diddorol, rhaglenni rhyngweithiol llawn hwyl, digwyddiadau cyhoeddus gwych ac arddangosfeydd dros dro arbennig.

Mae’r Amgueddfa yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe.

Dyfarnwyd grant o £11 miliwn iddi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.      

Cynlluniwyd yr adeilad gan Wilkinson Eyre Architects gan ymgorffori warws cofrestredig Gradd II Amgueddfa Diwydiant a Morwrol Abertawe gynt) a’i gysylltu ag adeilad gwydr a llechi newydd sbon.     

Mae’r Amgueddfa yn Ardal Forwrol Abertawe ac yn rhan o adfywiad yr ardal.

Daeth gweddill y nawdd o gronfa Amcan 1 UE Llywodraeth Cynulliad Cymru a noddwyr a rhoddwyr preifat eraill.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata ar (029) 2057 3616.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.