Datganiadau i'r Wasg

Gwobr Dewi Sant yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

 

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw ar bobl o bob cwr o Gymru i enwebu rhywun sydd, yn eu barn nhw, yn haeddu cydnabyddiaeth am eu llwyddiannau eithriadol wrth i'r broses enwebu ar gyfer y system wobrau newydd agor.

 

 

Mae Gwobrau Dewi Sant yn gynllun unigryw i Gymru, ac yn cydnabod llwyddiannau pob math o bobl, beth bynnag eu cefndir neu broffesiwn.

 

Bydd y Gwobrau blynyddol yn anrhydeddu pobl sy'n gwneud pethau eithriadol, gan ysbrydoli eraill a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd pobl Cymru.

 

Gellir enwebu unrhyw un dan wyth categori, sef:

 

  • Dewrder
  • Dinasyddiaeth
  • Diwylliant
  • Menter
  • Arloesedd a Thechnoleg
  • Chwaraeon
  • Rhyngwladol
  • Person ifanc

 

Hefyd mae nawfed gwobr, sef Gwobr Arbennig Prif Weinidog Cymru. Nid oes modd enwebu pobl ar gyfer y wobr hon, a'r Prif Weinidog ei hun fydd yn dewis yr enillydd.

 

Bydd paneli o feirniaid arbenigol, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Rowe-Beddoe, yn dewis rhestr fer ac yn y pen draw enillydd pob categori. Cyhoeddir y rhestr fer mewn derbyniad mawreddog ar 9 Ionawr 2014. Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni Gwobrau Dewi Sant ar 13 Mawrth 2014 yng Nghaerdydd.

 

Yn lansiad y Gwobrau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dywedodd y Prif Weinidog:

 

"Efallai ein bod ni'n wlad fach, ond mae’n llwyddiannau’n rhai mawr. Pan gyhoeddais fy mwriad i gynnal y gwobrau hyn yn gynharach eleni, roeddwn am fedru cydnabod y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan bobl gyffredin Cymru, pobl sy'n gweithio'n ddiflino dros eraill ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd yng Nghymru, heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl.

 

"Mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi bod yn ddigon ffodus i gyfarfod rhywun fel hyn ar ryw adeg, a dyma'n cyfle i roi rhywbeth yn ôl. Rwy'n annog pobl i lenwi'r ffurflen ac enwebu unrhyw un sy'n haeddu cydnabyddiaeth, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ddisgleirio."

 

Bydd enillydd pob categori yn derbyn tlws wedi'i greu'n arbennig gan y cerflunydd enwog o Gymru, Gideon Petersen. Dadorchuddiwyd y tlws gan y Prif Weinidog heddiw.

 

Y gair awen yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y tlws, ac fe fydd yn cael ei greu o ddur meddal ar sylfaen o lechen Gymreig.

 

Ar ôl i’r tlws gael ei ddadorchuddio, roedd ar arddangos am bythefnos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cyn dechrau ar daith o amgylch Cymru.

 

Yn ystod y lansiad, cyhoeddwyd hefyd mai S4C yw’r partner yn y cyfryngau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant.  Yn ogystal â darlledu rhaglen Gymraeg am y gwobrau ym mis Mawrth 2014, gan gynnig sylwebaeth Saesneg hefyd, bydd S4C yn rhan o’r cynnwrf yn ystod y cyfnod cyn y seremoni yng Nghymru a thu hwnt, gydag eitemau rheolaidd drwy gydol y cyfnod enwebu a’r rhestr fer.

 

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:

 

“Fel yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, mae’r ffaith bod S4C wrth galon y genedl yn golygu bod modd i ni ddathlu bywydau, diwylliant a thraddodiadau Cymru gyfan.

 

“Drwy’r bartneriaeth ddarlledu hon gyda Llywodraeth Cymru, rwy’n falch iawn o weld y bydd modd i ni hefyd rannu rhai llwyddiannau anhygoel gyda’n cynulleidfa, a rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus haeddiannol i’r rhai sy’n cael eu henwebu.”

 

Gellir enwebu drwy lenwi ffurflen ar-lein neu lawrlwytho templed o www.cymru.gov.uk/gwobraudewisant. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 5 Tachwedd 2013.