Datganiadau i'r Wasg

Y 5 peth gorau i’w gwneud yn amgueddfeydd cenedlaethol Caerdydd dros yr wyl

Y Nadolig yw uchafbwynt y flwyddyn i lawer, ond gall y cyfan fod yn ormod hefyd. Pa mor hir fydd hi cyn i hwyl yr ŵyl droi’n ddiflastod y ’Dolig? Cyn i chi gael llond bol o’r bwyta, syrffedu ar y stwffin, cyfri’r gost – mewn ceiniogau ac amynedd, rhoi i fyny ar y rhoddion a phwdu ar y plant? Na phoener, mae amgueddfeydd cenedlaethol Caerdydd yma ar eich cyfer – mae llond lle o weithgareddau, hwyl a sbri’n aros ar eich cyfer chi a’r teulu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru… a’r cyfan oll yn rhad ac AM DDIM! (ar agor ar 27, 28, 29, 31 Rhagfyr a 2, 3, 4, 5 Ionawr, 10am-5pm).

 

  1. Taclo’r twrci yn Sain Ffagan! Mae gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru dros 3 milltir o lwybrau cerdded. Gallech losgi dros 700 o galorïau ar dro 4 awr hamddenol. Anghofiwch am y soffa, camwch tuag at iechyd gwell yma, mwynhau’r awyr iach a darganfod y parcdir can erw. Cofiwch hefyd am Gastell Sain Ffagan, plasty o’r 16eg ganrif a saif yng nghanol gerddi godidog, neu ymgollwch yn y goedwig a chyfri’r coed ffawydd sy’n gewri o’ch cwmpas.

 

  1. Yng Nghymru, mae canu gwasael yn arfer a gysylltir yn draddodiadol â’r Nadolig a’r flwyddyn newydd. Byddai powlen wasael yn cael ei llenwi â siwgr, ffrwythau, sbeisys a chwrw cyn i grwpiau o ddynion a bechgyn ei chario o dŷ i dŷ. Byddent yn canu neu’n cnocio ar y drws cyn rhannu cynnwys y bowlen ymysg ei gilydd. Yn Ffermdy Kennixton yn Sain Ffagan, mae powlen wasael a wnaed yn arddull crochenwaith Ewenni. Mae gan y bowlen briddwaith goeth hon 18 dolen ac mae wedi’i haddurno â blodau, adar ac anifeiliaid.

 

  1. Yn 2014, rydym yn dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Dewch draw i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ymweld â’r arddangosfa boblogaidd Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood gan Dylan Thomas a dysgu mwy am y ‘ddrama i leisiau’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys portreadau o bob un o gymeriadau’r cast, lluniau dyfrlliw o’r breuddwydion a collages a phaentiadau o olygfeydd a lleoliadau pentref dychmygol Llareggub.

 

  1. A Child’s Christmas in Wales oedd stori fer enwog Dylan Thomas am y Nadolig. Gadewch i waith Dylan Thomas eich ysbrydoli i greu cist drysor ar gyfer eich anrhegion Nadolig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd neu ymunwch â Helfa Anifeiliaid y Gaeaf, dilyn y llwybr o amgylch yr amgueddfa a datrys y cliwiau. Rhagfyr 21 2013-Ionawr 5 2014, 11am-4pm.

 

  1. Ydych chi wedi laru ar y lliwiau llachar a’r pompoms plastig? Dewch am dro o gwmpas tai hanesyddol Sain Ffagan i gael cipolwg ar addurniadau’r oes a fu. Mae’r hen ffermdai dan fantell fythwyrdd celyn ac iorwg, oedd yn symbol o fywyd a ffrwythlondeb yng nghanol llymder gaeaf. Yn y tai o droad yr ugeinfed ganrif, gwelwn yr addurniadau lliwgar a fasgynhyrchwyd sy’n gyfarwydd i ni heddiw yn dechrau dod i’r amlwg. Mae’r hen ffefrynnau – coed Nadolig, cardiau a chracyrs – i’w gweld hefyd, ochr yn ochr â gwyrddni, torchau ac uchelwydd, y gorau o’r gorffennol.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob Amgueddfa.