Datganiadau i'r Wasg

Brasluniau Sutherland i’w gweld ar y Glannau

Bydd cyfle unigryw i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe weld dros 60 o weithiau o lyfrau braslunio yr artist adnabyddus Graham Sutherland mewn arddangosfa arbennig newydd dan y teitl From Darkness into Light: Mining, Metal and Machines.

Graham Sutherland (1903 – 1980) Outcast coal production – dienw, tua 1940-5 Inc, pensel a gouache ar bapur, 16.2 x 15.2 cm Casgliad Preifat © Ystâd Graham Sutherland

Graham Sutherland (1903 – 1980) Opening the Tap Hole on an Open-hearth Furnace, 1942 Inc, pensel a gouache ar bapur, 15.1 x 11 cm Casgliad Preifat © Ystâd Graham Sutherland

Graham Sutherland (1903 – 1980) Feeding a steel furnace, Abertawe, 1942 Inc, pensel a gouache ar bapur, 23 x 19.5 cm Casgliad Preifat © Ystâd Graham Sutherland

Yn nhyb nifer, Graham Sutherland (1903-80) oedd artist tirluniau gorau Lloegr yn yr ugeinfed ganrif, ac un o’r peintwyr portreadau gorau erioed o’r tu hwnt i Glawdd Offa.

Fel un o artistiaid blaenllaw’r cyfnod, fe’i comisiynwyd fel Artist Rhyfel Swyddogol ym 1942 i gofnodi’r gwaith y tu ôl i’r frwydr. Fe’i anfonwyd ar un achlysur i Fwynglawdd Tun Geevor yng Nghernyw, a chael yno ysbrydoliaeth newydd fu’n sbardun i newid yn ei waith o hynny hyd ddiwedd ei yrfa. 

Hyfforddodd Sutherland yn wreiddiol fel drafftsmon peirianneg, a bu hun o fantais iddo wrth ddarlunio peiriannau wrth eu gwaith ac wrth sgwrsio â’r gweithwyr. Tra’n cyflawni’r gwaith dogfennu a ddisgwylid gan y Swyddfa Ryfel yn cyfleu caledi a chlawstroffobia amodau gwaith yn y mwynglawdd, sylwodd Sutherland hefyd ar elfennau anthropomorffig yr offer a ddefnyddiwyd, gan fwydo diddordeb oes mewn arbrofi a ffurfiau peirianyddol.

Aeth ei waith rhyfel ag ef hefyd i nifer o weithfeydd dur de Cymru i weld pegwn arall y diwydiant metel – creu llenfetel o’r deunydd crai. Diwydiannau mwyngloddio Cernyw a smeltio Cymru oedd y gorau yn y byd cynhyrchu metel am fwyafrif helaeth y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er bod y cyswllt wedi llacio erbyn cyfnod Sutherland, roedd nifer o ddiwydianwyr mawr de Cymru yn hanu o linach perchnogion mwyngloddiau Cernyw. 

Gwelir darluniau a gynhyrchwyd gan Sutherland yn Nghernyw a Chymru yn yr arddangosfa, a gan fod y mwyafrif o’r darluniau wedi’u benthyg o gasgliad preifat o’r tu hwnt i’r DU, mae hwn yn gyfle unigryw i’w gweld.

Mae cyfrol llawn lluniau wedi’i chyhoeddi gan Sansom & Company yn ategu’r arddangosfa. Ymhlith yr erthyglau yn y llyfr mae cyfraniadau gan; Sally Moss, arbenigwr ar Sutherland a churadur yr arddangosfa; yr Athro Paul Gough, arbenigwr celf rhyfel cydnabyddedig; a Dr Tehmina Goskar, hanesydd diwydiannol yn arbenigo ar Gernyw a de Cymru. Atgynhyrchir pob un o’r gweithiau yn yr arddangosfa, yn ogystal a gweithiau eraill o’r arddangosfa wreiddiol, fwy a agorodd yn Oriel ac Amgueddfa Penlee House, Penzance, ym Medi 2013.

Bydd cyfle hefyd i weld DVD 11 munud o gyfweliadau archif â’r artist yn ogystal â sylwebaeth gan haneswyr modern ar waith Sutherland yn ystod y Rhyfel ac ymweliadau â’r mwyngloddiau a’r gweithfeydd a ddarluniwyd ganddo.

Wrth siarad am yr arddangosfa, meddai Andrew Deathe, Awdur Oriel yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: Mae’n atodiad gwych i’n rhaglen o arddangosfeydd dros dro ac yn rhywbeth hollol wahanol i’n hymwelwyr. Rydym wedi derbyn nifer o sylwadau positif am y gweithiau yn barod a gobeithiwn y bydd tipyn mwy yn galw draw i’w gweld.

Meddai Sally Moss, curadur yr arddangosfa: Defnyddiodd Sutherland yr hyn a alwai yn ‘eiriaduron gweledol’ drwy gydol ei yrfa – llyfrau braslunio oedd yn gatalog o olygfeydd, gwrthrychau, gweadau a lliwiau.

Cadwyd pob un o’r darluniau yn yr arddangosfa fel cofnod personol o’r safleoedd diwydiannol yr ymwelodd â nhw wrth gofnodi’r rhyfel ym Mhrydain. Maent hefyd yn brawf o’i ddiddordeb a’i hoffter mawr o beiriannau – diddordeb a daniwyd wrth gael ei hudo’n brentis ifanc gan y broses o weddnewid talpiau metel yn locomotif stêm llawn cymhlethdod soffistigedig.

Mwynhewch y cipolwg hwn ar ei fywyd preifat – efallai taw hwn fydd yr unig gyfle.

Gellir gweld Graham Sutherland: From Darkness into Light - Mining, Metal and Machines tan ddydd Sul 23 Mawrth 2014. Mae’r arddangosfa ar fenthyg o Oriel ac Amgueddfa Penlee House, ac fe’i cynhyrchwyd gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth a delweddau, cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3600.