Datganiadau i'r Wasg

Penodi Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil newydd Amgueddfa Cymru

Mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gyhoeddi penodiad Dr Peter Wakelin fel cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil newydd y sefydliad. Ymunodd Peter Wakelin â’r Amgueddfa ym mis Ionawr a bydd yng ngofal yr adrannau Celf, Hanes ac Archaeoleg, y Gwyddorau Naturiol a Gwasanaethau Casgliadau.

Mae Dr Wakelin yn cymryd yr awenau yn dilyn ymddeoliad John Williams-Davies y llynedd wedi deugain mlynedd yn Amgueddfa Cymru.

Bydd Dr Wakelin yn gyfrifol am y tîm sy’n gofalu am y 5 miliwn a mwy o wrthrychau yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru mewn wyth safle – casgliadau yn cynnwys popeth o lampau glowyr a gweithiau Monet i saethau fflint ac awyrennau.

Wedi gweithio yn y sector treftadaeth yng Nghymru am ugain mlynedd a mwy, daw Dr Wakelin â chyfoeth o brofiad i Amgueddfa Cymru. Tan ei benodiad, roedd Dr Wakelin yn Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru – y corff cenedlaethol sydd yng ngofal ymchwil i’r byd hanesyddol a’i archifo. Tra gyda’r Comisiwn, cynyddwyd mynediad y cyhoedd i’r archif ar-lein, sefydlwyd canolfan ragoriaeth ailadeiladu 3D a datblygwyd cyfres Hidden Histories gyda’r BBC yn dilyn gwaith ymchwilwyr y Comisiwn.

Yn y gorffennol, bu’n Bennaeth yr Uned Adfywio gyda Chyfarwyddiaeth Cymunedau Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn Archwilydd Henebion ac Adeiladau Hanesyddol gyda Cadw am ddeuddeg mlynedd cyn hynny. Tra gyda Cadw, chwaraeodd rôl flaenllaw wrth ymgyrchu am statws Safle Treftadaeth y Byd i Flaenafon yn 2000.

Mae’n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau ar agweddau o dreftadaeth Cymru a hanes celf, gan gynnwys llawlyfr Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, Hidden Histories: Discovering the Heritage of Wales a Worktown, casgliad o ddarluniau Falcon Hildred o adeiladau dan fygythiad. Mae hefyd wedi curadu arddangosfeydd o gelf Cymreig a chelf i blant yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn y Tabernacl, Machynlleth.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Rydw i wrth fy modd bod Peter yn ymuno ag Amgueddfa Cymru ac rwy’n gwybod y byddwn yn elwa o’i brofiad helaeth a’i frwdfrydedd dros y sector treftadaeth. Yn ddiamau, bydd cyfraniad Peter yn cael dylanwad bositif ar waith Amgueddfa Cymru ac yn gymorth i atgyfnerthu’n statws fel corff â bri rhyngwladol ym maes casgliadau ac ymchwil.”

Dywedodd Peter Wakelin:

“Rydw i wedi bod yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ers fy mhlentyndod yn Abertawe, ac mae wedi bod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth ac addysg drwy gydol fy mywyd. Mae casgliadau Amgueddfa Cymru ymhlith trysorau bywyd Cymru, yn ein galluogi i ddeall ein hunain a’r byd o’n cwmpas ac yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

“Diolch i arbenigedd ac ymroddiad y staff wrth ddatblygu a dehongli y casgliadau tyfodd Amgueddfa Cymru yn un o’r sefydliadau gorau o’i bath yn y byd. Gyda chefnogaeth barhaus y cyhoedd a Llywodraeth Cymru mae cyfle gwych i gynyddu  ei chyfraniad at addysg, twristiaeth, diwylliant, gwyddoniaeth a’r diwydiannau creadigol – elfennau sy’n hanfodol i’n dyfodol fel cenedl. Mae’r cyfle i fod yn rhan o hynny yn un cyffrous.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.