Datganiadau i'r Wasg

Ymchwil i Wyddoniaeth Rhyw ar ddydd Sant Ffolant

Awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol ar ddydd Sant Ffolant? Galwch draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i glywed Rosie Wilby a gyrhaeddodd rownd derfynol Funny Women yn trafod Gwyddoniaeth Rhyw.

Ar ddydd Gwener 14 Chwefror am 7pm, bydd Rosie yn ymchwilio i wyddoniaeth atyniad, cemeg rhyw a hunaniaeth rhyw yn ei sioe gomedi wobrwyog. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y sioe yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caergrawnt ddwy flynedd yn olynol.

Pam fod rhai pobl yn fwy deniadol nag eraill? A yw affrodisiaid yn gweithio? Beth sy’n ein cyffroi? Beth yw fferomonau? Beth sy’n digwydd yn gemegol pan fyddwn ni’n cwympo mewn cariad? Beth yw tarddiad gwyddonol cusanu? Bydd Rosie yn ymchwilio i hyn, a llawer mwy.

“Mae’n bleser cael cynnal y sioe hon ar ddydd Sant Ffolant,” meddai’r Cynorthwy-ydd Digwyddiadau, Andrew Kuhne. “Mae’n gyfle gwych i gynnig arlwy gwahanol i oedolion ac rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd pobl yn bachu ar y cyfle.”

Wrth siarad am y sioe dywedodd Rosie Wilby: “Dyma un o fy hoff sioeau i’w pherfformio ac un sy’n parhau yn ffefryn gan gynulleidfaoedd. Mae’n bwnc mor ddiddorol, a bydda i’n dysgu cymaint wrth drafod gyda’r gynulleidfa wedi’r sioe a gwrando ar eu profiadau, ac wrth drafod ymchwil gyda gwyddonwyr ac awduron.”

Sioe i oedolion yn unig yw Gwyddoniaeth Rhyw. Pris tocyn yw £5 y pen ac rydym yn eich annog i archebu ymlaen llaw drwy ffonio (029) 2057 3600.

Nodiadau i’r golygydd

Am Gwyddoniaeth Rhyw

Enillodd y sioe wobr Fringe Report yn 2010 a gwerthwyd pob tocyn yng ngwyliau Camden Fringe, Liverpool Comedy Festival, Cambridge Science Festival a llawer mwy. Mae hefyd wedi perfformio’r sioe yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2012, Larmer Tree Festival 2013 a’r Fresh Fruit Festival yn Efrog Newydd yn 2013.

Roedd ei chymeriad love doctor mor llwyddiannus nes i London South Bank ofyn iddi arwain eu menter cymar-cyflym llenyddiaeth ar Ddiwrnod y Llyfr 2011. Cafodd gais hefyd gan Sŵ Llundain i ymddangos yn eu Twisted Cabaret ym misoedd Mai a Mehefin 2011 a dyma hi’n perfformio sesiynau cwnsela cyplau ffug yng Ngŵyl Ffilmiau Lesbiaidd a Hoyw Llundain 2012.