Datganiadau i'r Wasg

Dechrau Clwb y Llygod Bach yn y Glannau

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe yn lansio sesiwn crefft a chân newydd, gweithgaredd dwyieithog i blant dan bump sy’n cynyddu ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg ac yn datblygu ein gweithgareddau am ddim i deuluoedd.

Bydd Clwb y Llygod Bach yn dechrau ar ddydd Gwener 4 Ebrill (10.30am-12.30pm) ac yn sesiwn alw draw fisol wedi’i threfnu mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe, Twf, Mudiad Meithrin a’r Urdd.

Bydd cyfle i fwynhau crefft, cân a stori ar thema arbennig yng nghwmni Morys, masgot newydd yr amgueddfa.

Cynlluniwyd y digwyddiad i hybu buddiannau dwyieithrwydd o oed ifanc, a hynny mewn modd llawn hwyl a hygyrch. Bydd digon o le hefyd i chwarae ac archwilio’r brif neuadd a’r orielau.

“Pleser yw cyflwyno’r digwyddiad newydd hwn yn yr Amgueddfa, ac roedden ni’n meddwl byddai thema’r Gwanwyn yn ffordd wych o lansio’r fenter,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry.

“Mae’r lleoliad hwn, yng nghanol hanes a threftadaeth Cymru, yn lle gwych i blant ifanc gael eu cyflwyno i’r iaith Gymraeg, ac yn rhoi cyfle hefyd i rieni newydd gyfarfod eu gilydd,” ychwanegodd.

Meddai Siwan Thomas o Twf: “Rydyn ni wrth ein bodd o gael bod yn rhan o’r digwyddiadau misol yma ac rwy’n edrych ymlaen at ledu neges Twf tra’n mwynhau’r sesiynau.”

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

Sefydlwyd Menter Iaith Abertawe yn 2001, er mwyn hyrwyddo ac ehangu defnydd yr iaith Gymraeg yn Ninas a Sir Abertawe. Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.menterabertawe.org.

Mae Twf yn cynnig cyngor dwyieithog am ddim i rieni o’r cychwyn cyntaf. Am ragor o wybodaeth ewch i www.twfcymru.com

Sefydliad gwirfoddol yw Mudiad Meithrin a dyma’r prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar iaith Gymraeg yn y sector gwirfoddol. Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.meithrin.co.uk/amdanom-ni/

Mudiad cyffrous, dynamig i blant a phobl ifanc yw’r Urdd. Mae’n trefnu amrywiaeth o weithgareddau ledled Cymru. Ewch i http://www.urdd.org/