Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn treialu rhaglen iBeacon

Amgueddfa Cymru yw’r amgueddfa genedlaethol gyntaf yn y byd i dreialu technoleg Bluetooth Ynni Isel Diwylliant a Threftadaeth (Apple iBeacon), mewn partneriaeth â Chasgliad y Werin Cymru ac ap a phlatfform Locly. Mae’r rhaglen yn cael ei threialu yn Amgueddfa Lechi Cymru, un o safleoedd Amgueddfa Cymru, a bydd yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod mwy am y casgliadau ar eu dyfeisiau symudol wrth iddynt grwydro’r safle.

Offeryn cyfathrebu yw iBeacon sy’n cysylltu dyfeisiau â’i gilydd ac yn anfon signal gan ddefnyddio Bluetooth Ynni Isel (BLE – Bluetooth Low Energy). System leoli dan do ydyw y mae Apple yn ei galw’n ddosbarth newydd o drosglwyddydd ynni isel, cost isel, all roi gwybod i ddyfeisiau iOS 7 gerllaw ei bod yno. Gall gael ei ddefnyddio gyda system weithredu Android hefyd.

 

Drwy’r rhaglen benodol hon, bydd ymwelwyr yn derbyn gwybodaeth gan Amgueddfa Lechi Cymru a Chasgliad y Werin Cymru ar eu dyfeisiau symudol wrth iddynt grwydro’r Amgueddfa, gan ddarganfod gwrthrychau a rhyngweithio â nhw.

 

Mae’r rhaglen yn seiliedig ar gynnwys digidol a guradwyd gan yr Amgueddfa, a bydd yn defnyddio’r dechnoleg iBeacon drwy ap a phlatfform Locly. Gosodwyd 25 iBeacon o gwmpas yr Amgueddfa dros y 4 wythnos diwethaf gan ailddefnyddio cynnwys digidol oedd eisoes yn bod trwy Gasgliad y Werin Cymru a phlatfform Locly. Byddant yn rhoi profiad cyfrwng-gyfoethog i’r ymwelydd.

 

Mae’r fideo canlynol yn esbonio’n fanylach: http://youtu.be/ii_Na3AewKc

 

Mae’r bartneriaeth wedi cwblhau cam cyntaf y cynllun peilot, sef treialu cysyniad technolegol yr iBeacon mewn amgueddfa genedlaethol achrededig fyw. Mae ail gam y cynllun peilot bellach ar y gweill sef archwilio elfennau penodol o dreftadaeth ddigidol er enghraifft addysg, dehongli a’r defnydd o ddeunyddiau dwyieithog ac amlieithog. Dim ond i’r rheini sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am dechnoleg iBeacon mewn amgylchedd amgueddfa fydd y cam hwn ar gael.

 

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae’r fenter hon yn torri tir newydd gan fynd â’r defnydd o dechnoleg mewn amgueddfeydd i lefel uwch. Mae’n bleser gen i fod amgueddfa genedlaethol Cymru yn arwain y ffordd. Diolch i arbenigedd ein staff a chyfraniadau a gwybodaeth werthfawr gan ein partneriaid, rydym yn archwilio potensial llawn y dechnoleg hon er mwyn creu byd newydd o wasanaethau cyhoeddus ar gyfer y sectorau diwylliant, treftadaeth ac amgueddfa.”

 

Bydd Amgueddfa Cymru yn archwilio’r defnydd o dechnoleg iBeacon mewn amgueddfeydd ymhellach mewn digwyddiad a gynhelir gan y sefydliad ar 10 Gorffennaf 2014. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law ar www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lleucu Cooke, Amgueddfa Cymru (029 2057 3175 / lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk).

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallech chi gymryd rhan yn y cynllun peilot ac i drefnu ymweliad i brofi’r dechnoleg newydd, cysylltwch â Rheinallt Jones, Rheinallt.ffoster-jones@amgueddfacymru.ac.uk  neu Susan Davie, info@locly.com