Datganiadau i'r Wasg

Astudiaeth newydd yn canfod rhywogaethau gwlithod ychwanegol ym Mhrydain

Mae gwlithod o Ffrainc, Sbaen a’r Eidal yn ymlithro i Brydain

 

Mae astudiaeth newydd gan wyddonwyr Amgueddfa Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn y cyfnodolyn gwyddonol, PLOS One, yn dangos bod 20% yn fwy o rywogaethau o wlithod ym Mhrydain nag erioed o’r blaen. Mae’r rhan fwyaf eisoes yn gyffredin a gallant fod yn fygythiad newydd i arddwyr a byd amaeth.

 

 

 

 

Mae’n debygol mai o dir mawr Ewrop y daw’r rhan fwyaf o’r 8 rhywogaeth ychwanegol – o Sbaen, Ffrainc, yr Eidal, Bwlgaria neu Ukrain. Cawsant eu canfod mewn cynefinoedd amrywiol, o erddi i goetiroedd, ac maent yn bwyta blagur, gwreiddiau a hyd yn oed mwydod. (Ewch i Nodiadau i Olygyddion am restr gyflawn o’r gwlithod ychwanegol).

 

 

 

Dr Ben Rowson, Sŵolegydd Amgueddfa Cymru a arweiniodd y gwaith, ar y cyd gyda Bill Symmondson o Brifysgol Caerdydd a Roy Anderson o’r Gymdeithas Gregynegol. Daethpwyd o hyd i’r rhywogaethau ychwanegol wrth gasglu gwlithod o gynefinoedd ar draws Prydain ac Iwerddon er mwyn cynhyrchu llawlyfr adnabod 140-tudalen cynhwysfawr newydd a gyhoeddir y mis hwn gan y Field Studies Council. Cafwyd grant project ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ar gyfer y gwaith. Defnyddiodd y gwyddonwyr DNA, technegau anatomegol a ffotograffiaeth ddigidol i adnabod pob gwlithen a sicrhau fod y llawlyfr yn gywir.

 

 

 

Meddai Dr Rowson, “Roedden ni’n gwybod sut i ddod o hyd i’r 36 rhywogaeth hysbys o wlithen, er bod rhai ohonynt yn gymharol brin, ond cawsom syndod o ganfod cymaint o rywogaethau nad oedd yn gyfarwydd i ni. Roedd rhai yn amlwg ar yr olwg gyntaf ac eraill yn aneglur, a dim ond trwy archwilio ymhellach oedd modd i ni fod yn siŵr eu bod yn wahanol.”

 

 

 

Roedd yr astudiaeth ddwy flynedd yn cymharu dilyniannau DNA o gannoedd o wlithod a gasglwyd o’r newydd â data o Ewrop, ac yn dangos fod pob rhywogaeth ychwanegol yr un mor eglur yn enetig ag eraill yn ei grŵp. Yn y rhan fwyaf o achosion, roeddent yn amlwg yn wahanol o ran eu hedrychiad neu gyrff hefyd. Mae’r cofnodion yn awgrymu bod y rhan fwyaf o’r rhywogaethau eisoes wedi ymsefydlu mewn nifer o leoedd ac mae’r ymchwilwyr o’r farn fod pob un ohonynt naill ai wedi’u cyflwyno’n ddiweddar neu heb eu cofnodi yn y gorffennol.

 

 

 

Meddai Dr Rowson, “Daethom o hyd i un rhywogaeth fach sy’n bwyta tatws (Tandonia cf. cristata) mewn rhandiroedd yng Nghymru, mewn mynwent yng ngorllewin Iwerddon ac ar dir diffaith ar Ynys Wyth. Ymddengys iddi gael ei chyflwyno o Fwlgaria neu Ukrain, ac mae eisoes wedi bridio ac ymledu’n ddisylw. Mae’r pryder am wlithod yn mynd law yn llaw â’r tymhorau neu’r tywydd, ond mae dod o hyd i’r holl rywogaethau ychwanegol hyn yma yn destun pryder difrifol.”

 

 

 

Mae gwlithod Prydain wedi bod yn destun trafod i’r wasg dros y blynyddoedd diweddar, yn enwedig yr Ysbrydwlithen gigysol, y Wlithen Lechwraidd Sbaenaidd (Arion flagellus) a’r drwg-enwog Wlithen Sbaenaidd (Arion vulgaris). Ond mae’r 8 rhywogaeth ychwanegol yn fwy o stori fyth.

 

 

 

Bydd y llawlyfr newydd sbon yn cynnwys lluniau o’r holl wlithod Prydeinig a Gwyddelig. Mae rhai ohonynt yn syndod o ddeniadol, ac nid yw pob un yn bla. Fodd bynnag, mae Dr Rowson a’r tîm yn dal yn ansicr am fathau a tharddiad rhai o’r rhywogaethau ychwanegol. Mae’n bosib fod rhai yn newydd i wyddoniaeth hyd yn oed, gan fod sawl rhan o Ewrop y credir i rywogaethau o wlithod sydd heb eu hadnabod fodoli.

 

 

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob Amgueddfa.

 

Diwedd

 

Am fwy o wybodaeth enu lluniau cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3175 neu lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.

 

 

 

Nodiadau i Olygyddion

 

 

 

Link to the PLOS One paper: http://dx.plos.org/10.1371/journal.pone.0091907

 

 

 

Dyma’r wyth rhywogaeth ychwanegol o wlithen

 

 

 

1. Arion cf. vulgaris

 

2. Arion cf. empiricorum

 

3. Arion cf. iratii

 

4. Arion cf. fagophilus

 

5. Tandonia cf. cristata

 

6. Testacella cf. scutulum

 

7. Limax cf. dacampi

 

8. Deroceras panormitanum

 

 

 

Cafodd dwy rywogaeth fawr, ddafadennog o wlithod cefngrwm (1 a 2) eu canfod yn nwyrain Lloegr. Mae’n debygol eu bod o Ffrainc yn wreiddiol, ac fe allan nhw droi’n bla i blanhigion, yn yr un modd ag Arion vulgaris. Cafwyd hyd i’r ddwy rywogaeth gyda’i gilydd weithiau. Gall fod yn anodd iawn gwahaniaethu rhwng rhywogaethau’r teulu o wlithod cefngrwm.

 

 

 

Cafwyd hyd i ddwy rywogaeth lai yn y teulu hwn (3 a 4) mewn coetiroedd yn ne Cymru yn unig. Maent yn perthyn agosaf i wlithod ardaloedd y Pyreneau yn Sbaen a Ffrainc.

 

 

 

Mae dau fath gwahanol iawn o wlithod y pridd eisoes yn gyffredin ym mhriddoedd gerddi a rhandiroedd Prydain. Gwlithen sy’n bwyta gwreiddiau yw’r naill (5) sydd fel arfer yn byw ym Mwlgaria ac Ukrain, a gall fod yn bla ar datws a moron. Gwlithen gragennog sy’n bwyta mwydod yw’r llall (6), ac mae’n aelod o deulu’r gwlithod cigysol.

 

 

 

Yn olaf, cafwyd dwy rywogaeth o wlithod drumiog sy’n debygol o fod yn fewnfudwyr diweddar o’r Eidal. Mae’r naill (7), a geir yn Swydd Efrog, yn anferth – gall dyfu hyd at 15cm o hyd ond ymddengys iddi gael ei chanfod mewn un man yn unig. Mae’r llall (8), y canfuwyd yng Nghaerdydd, dipyn yn llai, hyd at 3.5cm o hyd. Mae’n perthyn yn agos i’r Wlithen Grwydrol, Deroceras invadens, rhywogaeth sydd wedi ymledu i bob cwr o’r byd.

 

 

 

Teitl y papur yn PLOS One yw ‘The Slugs of Britain and Ireland: Undetected and Undescribed Species Increase a Well-studied, Economically Important Fauna by More Than 20%’.

 

 

 

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme trwy Ewyllys William Hesketh Lever, sefydlydd cwmni Lever Brothers. Ers 1925, mae’r Ymddiriedolaeth wedi rhoi grantiau ac ysgoloriaethau ymchwil ac addysg. Heddiw, mae gyda’r mwyaf o’r darparwyr trawsbynciol sy’n noddi ymchwil yn y DU, gan ddosbarthu dros £60m y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth, ewch i www.leverhulme.ac.uk.