Datganiadau i'r Wasg
Seren rhaglen The Call Centre, Nev Wilshire yn galw yn y Glannau
Dyddiad:
2014-04-24Mae’n bleser gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau groesawu Nev Wilshire, un o feibion Abertawe a seren rhaglen y BBC The Call Centre, fydd yn ymuno â ni ar ddydd Sul 27 Ebrill am 2.30pm i rannu cyfrinachau ei lwyddiant busnes gwobrwyog.
Yma yn Abertawe y dechreuodd Nev ar ei daith lwyddiannus i uchelfannau’r byd busnes ac un o sylfaenwyr a Prif Weithredwr Grŵp Save Britain Money. Mae bellach yn lysgennad dros ddiwydiannau a mentrau newydd yng Nghymru.
Yn dilyn y sgwrs, bydd Nev yn llofnodi copïau o’i lyfr newydd, Happy People Sell sy’n rhannu cyfrinachau ei ddull rheoli anghyffredin gan gynnwys canu gorfodol, canfod cariadon, gornestau ymaflyd breichiau a gweiddi yn ddi-flewyn ar dafod. Bydd y llyfr ar werth yn siop yr Amgueddfa ac ar gael i’w lofnodi gan Nev ei hun o 3.30pm ymlaen.
“Mae’n bleser cael croesawu Nev Wilshire i’r Amgueddfa ar ddydd Sul – bydd yn ddiweddglo llawn hwyl i wyliau’r Pasg,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry.
“Bydd hefyd yn gyfle gwych i’n hymwelwyr glywed sut aeth Nev ati i adeiladu ei ymerodraeth – o ddechrau busnes i greu ysbryd tîm mewn diwydiant modern,” meddai.
Wrth edrych ymlaen at ymweld â’r Amgueddfa dros y penwythnos, dywedodd Nev:“Mae pobl yn dweud o hyd taw Canolfannau Galw yw’r ffatrïoedd modern, felly mae’r Amgueddfa yn lle delfrydol i fi siarad!
“Rwy’n edrych ymlaen at ymweld – fel Jack Abertawe balch rwy’n gwerthfawrogi gwaith y staff yn cadw ein treftadaeth ddiwydiannol yn fyw.”