Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lansio Prynhawniau Plu

Mae hen bethau mewn ffasiwn unwaith eto, ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lansio cyfres o becynnau parti plu lle gallwch chi fwynhau crefftau hen ffasiwn a chreu gemwaith.

Caiff Prynhawniau Plu y Glannau eu cynnal ar benwythnosau dros yr haf, a’r gobaith yw y bydd unrhyw un â greddf greadigol yn manteisio ar y cyfle, yn ogystal â merched sy’n trefnu priodasau ‘vintage’.

Gall y briodferch a’i ffrindiau ddewis o dair sesiwn thematig dan arweiniad Hwylusydd Crefft arbennig. Bydd grwpiau sy’n dewis y pecyn Cartref Retro yn creu addurniadau ar gyfer y cartref, fel pinfyrddau ffabrig a chalonnau llawn lafant i addurno dolen drws neu wardrob. Os ydych chi am greu rhywbeth i’w wisgo, bydd y pecyn Uwchgylchu Gemwaith yn gyfle i greu bodis, mwclis neu addurn gwallt o ffabrigau hynafol, lês ac addurniadau.

Gall y briodferch sy’n trefnu seremoni briodas hynafol hefyd ddewis y pecyn Crefftau ac Addurniadau Priodas. Gyda help ei ffrindiau, gall ddefnyddio amrywiaeth o ffabrig i greu byntin cartref, uwchgylchu potiau jam i ddal canhwyllau neu ddefnyddio torwyr papur i ailgylchu llyfrau a phapur wal i greu conffeti unigryw.

Meddai Delyth Thomas, Swyddog Llogi Cyfleusterau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Rydyn ni wedi sylwi’n ddiweddar ar fwy a mwy o briodasau ‘vintage’, gyda nifer o seremonïau hynafol eu naws a’u haddurn yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Yn dilyn llwyddiant pecynnau partïon plu hynafol Sain Ffagan, roedden ni am gynnig rhywbeth tebyg yn Abertawe ar gyfer y briodferch a’i ffrindiau. Rwy’n siŵr y bydd y sesiynau, ynghyd â’n pecynnau arlwyo hynafol, yn apelio at ferched sy’n chwilio am weithgaredd creadigol, llawn hwyl.”

Mae’r arlwywyr treftadaeth arbenigol, Elior UK, wedi creu pecynnau te prynhawn a diodydd i’w gweini yn ystod y Prynhawniau Plu. Gall y merched ddewis o jygiau Pimms a lemonêd gyda ffrwythau ffres neu ddetholiad o winoedd gan cynnwys gwin pefriog Marquis de la Tour.

Darperir unrhyw ddeunydd ac offer crefft. Mae’r prisiau yn dechrau ar £22 y pen a sesiynau ar gael ar y rhan fwyaf o benwythnosau rhwng 12.30-4.30pm. Am ragor o wybodaeth am Brynhawniau Plu y Glannau ffoniwch (029) 2057 3600 neu ewch i http://www.amgueddfacymru.ac.uk/prynhawnpluglannau/

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jenny Harding neu Rachel Thomas yn MGB PR drwy ffonio 01792 460200 neu e-bostio Jenny@mgbpr.com neu Rachel@mgbpr.com