Datganiadau i'r Wasg

Y Dodo yn dod i Gaerdydd

Y Dodo yn dod i gynhadledd ryngwladol

Cynhadledd hanes natur fawr yn dod i Gymru am y tro cyntaf

Dodo Rhydychen yw’r sbesimen cadwedig gorau o’i fath o’r aderyn eiconig hwn ac mae’n un o’r trysorau naturiol amhrisiadwy fydd i’w gweld mewn ‘fflach amgueddfa’  yng nghynhadledd y Gymdeithas er Gwarchod Casgliadau Hanes Natur (SPNHC) a gynhelir yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Ar ei hymweliad cyntaf â Chymru, llwyfannir cynhadledd ryngwladol SPNHC gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Casgliadau’r Gwyddorau Naturiol (NatSCA) a’r Grŵp Curaduron Daearegol (GCG). Fe’i cynhelir yng Nghanolfan y Mileniwm rhwng dydd Llun 25 Mehefin a dydd Gwener 27 Mehefin.

Y gynhadledd unigryw hon yw’r digwyddiad mwyaf ar gyfer curaduron hanes natur, a bydd dros 250 o ddaearegwyr, sŵolegwyr a botanegwyr o 90 a mwy o amgueddfeydd a phrifysgolion o bob cwr o’r byd yn mynychu.

Thema SPNHC 2014 yw Casgliadau Hanesyddol: Adnodd i’r Dyfodol. Cynhelir myrdd o weithgareddau a digwyddiadau yn ystod yr wythnos gan gynnwys tripiau maes, gweithdai, sgyrsiau gan sêr natur y BBC, Alice Roberts a Dr Rhys Jones, a theithiau o gasgliadau amgueddfa.

Casglwyd y sbesimenau ynghyd gan eu ceidwaid, staff Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Rhydychen. Byddant yn rhan o fflach amgueddfa fydd i’w gweld yng Nghanolfan y Mileniwm drwy gydol yr wythnos. Ymhlith y gwrthrychau mae’r gweddillion Dodo gorau o’u bath, gên y deinosor cyntaf a enwyd a sbesimenau rhyfeddol o fordeithiau Capten Cook, Charles Darwin ac eraill. Fe’u dewiswyd i ddangos y gall casgliadau gyfrannu o hyd at wyddoniaeth a chymdeithas.

Mae gan bob gwrthrych ei stori unigryw. Rhoddwyd y Pengwin Brenhinol i Amgueddfa Cymru gan Ernest Shackleton ym 1910 yn dilyn ei alldaith arloesol i’r Antarctig. Roedd casgliadau Alfred Russel Wallace o loÿnnod byw adain adar, yn sail i’w waith ar rywogaethau a bioddaearyddiaeth a arweiniodd at y syniad o ddethol naturiol, a ddarganfu ar y cyd â Darwin. Mae’r darnau o feteoryn o’r gawod enwog a ddisgynnodd yn Chelyabinsk, Rwsia y 2013 yn dangos sut y caiff hanes ei greu drwy’r amser, a taw casgliadau cyfoes heddiw fydd casgliadau hanesyddol y dyfodol.”

Syniad Julian Carter, cadwraethydd casgliadau o Gasnewydd sy’n gweithio yn Amgueddfa Cymru, oedd ‘Trysorau Naturiol’ ac fe esboniodd yntau;

“Fel curaduron a chadwraethwyr hanes natur, rydyn ni’n cael cyfle yn ein gwaith bob dydd i biclo siarcod, glanhau sgerbydau deinosoriaid, gweld tu fewn i greigiau gyda phelydr-X, neu ddarganfod rhywogaethau chwilod newydd. Er ei fod yn faes arbenigol, gall y canlyniadau fod yn hynod boblogaidd ac yn wyddonol werthfawr. Y peth pwysig yw bod casgliadau yn adrodd straeon ac yn arwain at ddarganfyddiadau newydd.

“Un o’r prif resymau dros ymgasglu yn y gynhadledd yw i drafod sut ydyn ni’n sicrhau bod casgliadau hanes natur ar gael o hyd i bobl heddiw, ac yn y dyfodol. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu hynny.”

Meddai John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y gynhadledd yng Nghaerdydd ac yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae’n brawf o statws Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel un o amgueddfeydd hanes natur blaenllaw Prydain, ac mae’n rhoi Cymru ar y map o ran arddangos ein casgliad hanes natur cyfoethog.”

Diolch i gymorth Llywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.