Datganiadau i'r Wasg

Brenhines y Nos

Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd
7 Medi – 28 Tachwedd

Caiff cerfwedd brin o un o dduwiesau Babilon — 'Brenhines y Nos' ei harddangos yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol dros dro o 7 Medi ymlaen. Mae'r darn 4,000 oed hwn yn un o weithiau celf pwysicaf hen Mesopotamia (Irac heddiw).

Cafodd y gerfwedd ei gwneud o glai wedi'i grasu yn gymysg â gwellt rhwng 1800 a 1750 CC. Ni wyddom ni pwy yw'r fenyw siapus ond credir ei bod hi