Datganiadau i'r Wasg

Geiriau’r Bardd yn yr Amgueddfa

I ddathlu canmlwyddiant geni un o feibion enwocaf Abertawe mae’r bardd a’r arbenigwr ar Dylan Thomas, Peter Thabit Jones, wedi dewis nifer o ddyfyniadau byr i’w dangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Rhwng 12 Gorffennaf a Mawrth 2015, gall ymwelwyr â 15 oriel thematig yr Amgueddfa ddilyn y dyfyniadau enwog ar Daith Lenyddol unigryw. Dewiswyd pob dyfyniad yn ofalus er mwyn adlewyrchu thema’r oriel, yn eu plith:

Y Dirwedd: The secret of the soil grows through the eye

Detholiad o Light Breaks where no Sun Shines

Y Môr: Sailed and set dazzling by the handshaped ocean

Detholiad o I Make this in a Warring Absence

Arian: And all the bells of the tills of the town shall ring

Detholiad o Under Milk Wood

“Pleser yw cael gweithio gyda Peter Thabit-Jones ar yr arddangosfa hon,” meddai’r Pennaeth Amgueddfa, Steph Mastoris.

“Mae’r daith yn plethu gwaith Dylan i’r arddangosfeydd yn fedrus, ond mae hefyd yn ddechrau swyddogol i’n dathliadau am y flwyddyn.

“Ein gobaith yw y bydd nifer o ymwelwyr yn galw draw er mwyn dysgu mwy am fardd enwocaf y ddinas.”

Wrth drafod y daith, dywedodd Peter Thabit Jones: “Rydw i wrth fy modd o gael cyfle i greu taith o ddyfyniadau gan Dylan Thomas sy’n cysylltu â 15 thema orielau’r Amgueddfa.

“Rydw i wedi bod yn dysgu myfyrwyr Prifysgol Abertawe am waith Dylan Thomas am 21 mlynedd, felly rwy’n hen gyfarwydd â’i gerddi a’i straeon, ei ryddiaith ac Under Milk Wood.

Ysbrydoliaeth Peter am yr arddangosfa oedd llawlyfr yr Amgueddfa, aeth gydag ef i Galifornia y llynedd lle bu’n awdur preswyl. Treuliodd Peter amser maith yn darllen ac ail-ddarllen gweithiau Dylan Thomas, yn chwilio am ddyfyniadau addas ar gyfer yr orielau.

“Roedd e’n gymaint o hwyl,” meddai Peter. “Cefais i syndod o weld, er fy mod i wedi dysgu ei waith am 21 mlynedd, sut y gall llinellau unigol Dylan godi uwchlaw’r cerddi a phigo’r meddwl o hyd.

“Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yr ymwelwyr yn cael cymaint o flas â mi ar ei waith arbennig yn ogystal â gwerthfawrogi’r Amgueddfa wych a gwerthfawr yma yn Abertawe.”

Peter Thabit Jones

Ganwyd Peter Thabit Jones yn Abertawe ym 1951 ac mae wedi ysgrifennu 13 o lyfrau. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i 20 a mwy o ieithoedd. Ym Mawrth 2008 fe deithiodd drwy America gyda merch Dylan, Aeronwy, yn cynnal sgyrsiau a darlleniadau ac fel rhan o ddathliadau DT100 fe gyhoeddodd y ddau Dylan Thomas Walking Tour of Greenwich Village, New York, ar ffurf llyfr, ap ffôn a thaith dywys gyda New York Fun Tours. Ers 21 mlynedd mae wedi dysgu Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol yn Adran Addysg Barhaus Oedolion, Prifysgol Abertawe.

Ymhlith yr arddangosfeydd eraill am Dylan Thomas yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau mae:

Sad 12 Gorff-Sul 2 Tach

Harmoni: Gwobr Wydr Ryngwladol Dylan Thomas - mae artistiaid gwydr lliw a phensaernïol o bob cwr o’r byd wedi creu gweithiau newydd ar thema Harmoni.

Sad 11 Hyd-1 Chwef 2015

Dylan Thomas gan Alfed Janes - cyfle arbennig i weld portread o Dylan Thomas gan ei gyfaill, Alfred Janes.

Sad 11 Hyd-30 Tach

Lle Dylan - ym 1934, gadawodd Dylan Thomas 5 Cwmdonkin Drive am Lundain. Drigain mlynedd yn ddiweddarach, aeth Ceri Thomas, a aned yn Llundain, i fyw yng nghartref y bardd yn Abertawe a dechrau creu gwaith celf gan ddwyn ysbrydoliaeth o eiriau, enw ac ardal Dylan.