Datganiadau i'r Wasg

Diwrnod o hwyl i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cynhelir diwrnod arbennig, llawn hwyl i gydnabod gwaith caled gofalwyr ifanc o bob cwr o Gaerdydd a Bro Morgannwg ar ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf 2014 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn gyfle i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd gyfarfod am ddiwrnod llawn hwyl o gemau ac i archwilio casgliadau diddorol yr Amgueddfa.

 

Cynhelir y gweithgareddau rhwng 11am a 4pm a byddant yn amrywio o gelf ac adrodd stori, i baentio wynebau, gwyddoniaeth ymarferol, helfa drysor a llawer mwy, gan gynnwys amrywiaeth o stondinau yn rhoi cyngor ar faterion iechyd ac eraill.

Mae Margaret McLaughlin yn Aelod Annibynnol ac yn Hyrwyddwr Gofalwyr Bwrdd Iechyd  Caerdydd a’r Fro sydd wedi bod yn gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i drefnu’r digwyddiad a’i hysbysebu. Meddai hithau:  

“Yn eu rôl allweddol o gefnogi’u teuluoedd mae gofalwyr yn aml yn rhoi anghenion eu hanwyliaid o flaen eu hanghenion eu hunain, yn enwedig gofalwyr ifanc.

“Rydyn ni wrth ein bodd o gael gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i agor eu casgliadau i gynulleidfa ifanc, gan gydnabod yn gyhoeddus gwerth sylweddol y gwaith a wneir gan ofalwyr ifanc a rhoi diwrnod llawn hwyl iddyn nhw a’u teuluoedd.”

 

Bydd y digwyddiad ar ddydd Sadwrn yn benllanw wythnos o weithgareddau ar gyfer gofalwyr ifanc yn yr Amgueddfa.

 

Dywedodd Eleri Evans, Rheolwr Addysg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

 

“Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gweithgareddau diwylliannol ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

 

“Mae’n hanfodol bod gofalwyr ifanc a’u teuluoedd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol ac mae diwrnodau fel hyn yn gyfle gwych o gyflwyno’r Amgueddfa a’i chasgliadau i gynulleidfaoedd ifanc a theuluoedd newydd.

 

“Drwy gydol y flwyddyn mae digon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddiddori’r plant a’r teulu i gyd, o gelf i hanes natur, neu beth bynnag sy’n eich diddori.”

 

Ym mis Awst bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd yn cydweithio gydag Achub y Plant ar eu menter FAST (Families and Schools Together). Rhwng 11am a 4pm ar ddydd Iau 14 Awst, bydd Achub y Plant yn cynnal gweithgareddau ar draws yr Amgueddfa, gan dynnu sylw at eu gwaith gyda theuluoedd.

 

Diolch i gymorth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.