Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa o brintiau propaganda’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Cymru ar fin lansio cyfres o arddangosfeydd a digwyddiadau i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

 

Wrth i filwyr orymdeithio i ryfel yn ystod haf 1914, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn disgwyl dychwelyd o fewn wythnosau, ac yn sicr erbyn y Nadolig. Yn hytrach, parodd y Rhyfel Byd Cyntaf nes bod y frwydr wedi ymestyn o’r ffosydd i fro eu mebyd.

 

Fel rhan o’r coffáu cenedlaethol i nodi can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Amgueddfa Cymru yn cynnal cyfres o arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol i drafod effaith y rhyfel ar fywyd yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn cychwyn yn swyddogol gyda lansiad Ysbrydoli’r Ymdrech: Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 2 Awst 2014 – penwythnos arwyddocaol sy’n nodi can mlynedd ers i Brydain gyhoeddi ei bod yn mynd i ryfel â’r Almaen.

 

Bydd yr arddangosfa, fydd i’w gweld tan 4 Ionawr 2015, yn arddangos y gyfres gyfan o 66 print lithograff The Great War: Britain’s Efforts and Ideals a gomisiynwyd gan Lywodraeth San Steffan ym 1917. Mae’r printiau wedi’u rhannu’n ddau bortffolio, ‘Delfrydau’ ac ‘Ymdrechion’ a’r nod oedd ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela, ac ailgynnau fflam yr ymdrech. Maent yn dangos camau cynnar propaganda gwleidyddol modern.

 

Cyfleu’r rhesymau dros frwydro, a gobeithion Prydain am y rhyfel oedd diben ‘Delfrydau’, trwy gyfrwng alegorïau a symbolaeth. Defnyddiwyd ffigyrau chwedlonol neu hanesyddol i gyfleu syniadau a chysyniadau ehangach.

Darlunio gwaith caled y bobl mae’r ail bortffolio, yr ‘Ymdrechion’. Cyfrannodd naw artist at yr adran hon gan gynnwys yr artist rhyfel adnabyddus, Christopher Nevinson, a gyflwynodd set enwog o brintiau, Adeiladu Awyrennau.

Gan eu bod yn bropaganda, roeddent yn osgoi dangos erchyllterau rhyfel, yn yr un modd â gwaith yr artistiaid rhyfel swyddogol. Er enghraifft, mae’r portffolio Gwaith Menywod yn cofnodi cyfraniad hollbwysig menywod i’r ymdrech ryfel yn y ffatrïoedd arfau – ond does dim arlliw yn y gweithiau o galedi, perygl ac undonedd y gwaith.

 

Mae arddull y gweithiau, sydd gan rai o artistiaid enwocaf y cyfnod megis Augustus John a Frank Brangwyn, yn wahanol iawn i’w gilydd ac yn adlewyrchu chwiw a chwaeth celf Brydeinig y cyfnod. Mae Beth McIntyre o Amgueddfa Cymru a churadur yr arddangosfa wedi cynnal gwaith ymchwil newydd sbon i’r gyfres. Meddai:

 

“Er bod llawer o ffeiliau’r llywodraeth ynghylch y gyfres hon o brintiau wedi’u colli mewn tân rydw i wedi llwyddo i gasglu llawer o wybodaeth er mwyn canfod faint gafodd yr artistiaid eu talu a lle cafodd y printiau eu harddangos.

“Hyd y gwydda i, dyma’r tro cyntaf i’r gyfres gyfan gael ei harddangos ers 1920. Mae’n grŵp hynod amrywiol o weithiau sy’n rhoi cipolwg arbennig i ni ar bropaganda artistig y Rhyfel Byd Cyntaf.”

Ar ddydd Sadwrn 2 Awst 2014, i ddathlu lansiad yr arddangosfa a dechrau rhaglen bum mlynedd yr Amgueddfa, bydd Band Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol (trwy ganiatâd caredig yr Is-gyrnol R. Manuel, Prif Swyddog, 3ydd Bataliwn) yn perfformio ar risiau blaen yr adeilad am 9.45am. Yna bydd gweithgareddau i deuluoedd, rhad ac am ddim drwy gydol y dydd (10am-5pm) gan gynnwys sioeau ail-greu hanes, gweithdai celf a cherddoriaeth gan grŵp opera. Bydd stampiau ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf hefyd i’w gweld diolch i’r Post Brenhinol yn ogystal â gwrthrychau sy’n gysylltiedig â’r cyfnod o gasgliadau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

 

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths:

“Rwy’n falch iawn bod Ysbrydoli’r Ymdrech: Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn lansio rhaglen Amgueddfa Cymru i nodi can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r rhyfel yn cael ei hystyried gan lawer fel un o’r gwrthdrawiadau mwyaf angheuol yn ein hanes, gyda miliynau o bobl, yn filwyr a sifiliaid yn colli eu bywydau. Mae’r rhaglen yn rhan allweddol o raglen Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio 1914 - 1918 sy’n nodi’r canmlwyddiant.”

 

Mae’r arddangosfa’n rhan o raglen Amgueddfa Cymru i goffáu can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Noddir ein rhaglen Cymru’n Cofio 1914-1918 a’r gweithgareddau cysylltiedig yn hael gan Lywodraeth Cymru (CyMAL), Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a noddwyr eraill. Diolch hefyd i Chwarae Teg a’r Post Brenhinol am gefnogi’r lansiad ac i chwaraewyr People’s Postcode Lottery am gefnogi rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yr Amgueddfa.