Datganiadau i'r Wasg

Rhyfeddodau Rhufain yng Nghaerllion dros yr haf

Ymgollwch yn hud yr Ymerodraeth yng Nghaerllion ym mis Awst. Ar y 16 Awst 2014 bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn dathlu dwy fil o flynyddoedd ers marw Ymerawdwr cyntaf Rhufain, Augustus drwy eich gwahodd i fod yn Ymerawdwr am y Dydd! Cymerwch ran yn ein gweithdy a chreu toga, torch i’r pen a cheiniogau. 19 Awst, 11am-5pm.

Bydd cyfle hefyd ym mis Awst i ymwelwyr gymryd rhan yn y Daith Rufeinig o amgylch yr Amgueddfa a’r ardd, 1-21 Awst, dydd Llun – dydd Sadwrn 10am - 5pm, a dydd Sul 2-5pm. Neu galwch draw i gyfarfod y Rhufeiniaid Cyffredin a siarad gyda’n cogydd, ein doctor a’n milwr a dysgu mwy am eu bywyd bob dydd. 1-21 Awst 2014, dydd Llun – dydd Sadwrn 11am - 4pm, dydd Sul 2-4pm.

Bydd mis Awst hefyd yn llawn o ddigwyddiadau ail-greu’r gorffennol wrth i ni gynnal Ymerodraeth: Sioe Rufeinig yn Amffitheatr Caerllion ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Awst, 11am-5pm. Galwch draw am brofiad gwych a diwrnod i’w gofio. (Oedolion £5, Gostyngiadau £4 a Thocyn Teulu £15).

Bydd seiniau gorymdaith y milwyr yn atsain o amgylch yr amffitheatr wrth iddynt arddangos yr arfau oedd yn sicrhau mai’r fyddin Rufeinig oedd yn deyrn. Gwyliwch y ceffylau’n dangos eu sgiliau yn yr arena hefyd.

Bydd blas modern ar adloniant hynafol wrth i ni groesawu rhedwyr parkour, bwytawyr tân, jyglwyr a dawnswyr! Mae digon o ffyrdd i chi gymryd rhan hefyd. A’r newyddion gorau oll? Wedi i chi dalu’r tâl mynediad mae popeth arall, heblaw am y bwyd, am ddim!

Dewch i weld sut beth oedd bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl a mwynhau diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan.

Dywedodd Dai Price, Rheolwr yr Amgueddfa:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fis Awst, fydd yn fis llawn hwyl i ni a’r ymwelwyr. Augustus yw un o’r cymeriadau hanesyddol prin a achosodd newid gwirioneddol yn y byd o’i amgylch, ond er hyn dyw e ddim mor adnabyddus ag Ymerawdwyr eraill fel Nero, Iŵl Cesar a Caligula. Cyfle perffaith felly i ymwelwyr ddysgu mwy amdano!

“Pleser unwaith eto yw cynnal y Sioe Rufeinig, a hynny dros benwythnos cyfan ym mis Awst. Camwch yn ôl mewn amser a chael blas ar fywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Bydd yn ddiwrnod llawn atyniadau i’r teulu cyfan o ymladd cleddyfau i siopa, neu rhowch eich traed lan a rhyfeddu at yr adloniant yn yr amffitheatr. Mae cymaint i weld ac i wneud – rydych chi’n cael bargen am y pris.”