Datganiadau i'r Wasg

Turner yn y Gogledd, 1799

ar fenthyg o'r Tate Britain

Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd 2 Hydref 2004 – 9 Ionawr 2005

JMW Turner oedd un o beintwyr tirluniau mawr Prydain. Ysbrydolodd ei ymweliadau â Chymru yn ystod deng mlynedd cyntaf ei yrfa rhai o'i luniau dyfrlliw mwyaf dwys a rhamantus.

Mae Turner yn y Gogledd, 1799 ( 2 Hydref 2004 - 9 Ionawr 2005) yn ymdrin â phumed daith Turner i Gymru ym 1799 - ei daith olaf. Mae'r arddangosfa'n tynnu 30 o weithiau o gasgliad y Tate at ei gilydd am y tro cyntaf, gan gynnwys brasluniau a wnaeth yn yr awyr agored a thirluniau stiwdio. Cafodd Turner yn y Gogledd, 1799 ai harddangos yn y Tate am y tro cyntaf ym 1999 ond caiff y darnau eu casglu at ei gilydd eto'n arbennig i'w harddangos yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd gan sbarduno gwaith ymchwil newydd ar union leoliadau rhai o'r tirweddau.

Cafodd Turner ei eni yn Covent Garden, Llundain ym 1775 a chafodd yrfa lewyrchus dros ben. Yn 14 oed, aeth i'r Academi Frenhinol, cafodd ei ddarlun cyntaf ei arddangos y flwyddyn ganlynol, a'i beintiad olew cyntaf yn 21 oed. Erbyn 1800, Turner oedd un o brif arlunwyr dyfrlliw topograffaidd Prydain. Ym 1802, daeth yn aelod llawn o'r Academi Frenhinol a bu'n ymwneud â'r sefydliad am weddill ei yrfa.

Nod Turner oedd codi statws peintio tirluniau i lefel celf aruchel a ffeindiodd ei ddeunydd delfrydol yn hanes cestyll Caernarfon a Dolbadarn. Er mwyn bodloni cynulleidfa gyfoes, peintiodd destunau hanesyddol, clasurol a Beiblaidd i godi ymateb emosiynol. Daeth Castell Dolbadarn yn destun sawl astudiaeth a phrint, gan gynnwys peintiad olew pwysig ddefnyddiodd yr artist fel gwaith Diploma wrth gael ei ethol i aelodaeth gyflawn o'r Academi Frenhinol. Yn ôl yr hanes, cadwodd Llywelyn ein Llyw Olaf ei frawd, Owain Goch, yn garcharor yn y castell am dros ugain mlynedd.

Heblaw am daith fer ym 1808, ni ddaeth Turner nôl i Gymru ar ôl 1799. Fodd bynnag, roedd un llun ar bymtheg o Gymru yn ei Picturesque Views in England and Wales rhwng 1827 a 1838. Yn eu plith mae llun dramatig o Lanberis a Chastell Dolbadarn (tua 1832); oedd yn dangos yr artist yn dychwelyd i dirwedd oedd wedi bod yn ei feddwl ers 1799. Dyma lun olaf Turner o fynydd ym Mhrydain.

20 Hydref, 11am