Datganiadau i'r Wasg
Gweinidog yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru
Dyddiad:
2004-09-06Bydd hefyd yn gyfle i Mr Pugh weld sut mae'r amgueddfa wedi cydweithio'n llwyddiannus gyda'r gymuned leol yn ardal Llanberis dros y blynyddoedd diwethaf, drwy gyfrwng cynllun o'r enw Partneriaeth Llanberis. Ymysg llwyddiannau'r prosiect hwn mae cynllun trafnidiaeth gyhoeddus newydd yn y pentref, sy'n ganolbwynt ar gyfer bysiau a threnau sy'n rhedeg yn yr ardal boblogaidd yma.
Meddai Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru:
"Rydym yn falch o'r cyfle i groesawu'r Gweinidog i'r amgueddfa. Gyda thros 65,000 o ymwelwyr yn ystod yr haf eleni, mae'r amgueddfa lechi wedi ennill ei phlwyf fel un o brif atyniadau gogledd orllewin Cymru.
"Gyda chyfradd o'r grant a roddwyd gan y Cynulliad ar gyfer rheoli casgliadau yn cael ei wario yma yn yr Amgueddfa Lechi, mae ymweliad Mr Pugh yn amserol ac yn rhywbeth i'w groesawu."
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Mae'r Amgueddfa Lechi yn atyniad heb ei ail. Mae'n hetifeddiaeth ddiwydiannol yn rhan hollbwysig o'n hunaniaeth fel cenedl; ac mae AOCC yn gwneud gwaith rhagorol yn sicrhau bod ein hetifeddiaeth yn hygyrch i gymaint o bobl â phosibl."
Dros y misoedd diwethaf mae'r Gweinidog wedi ymweld â thair amgueddfa ddiwydiannol AOCC, Amgueddfa Lechi Cymru, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru a'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre. Mae'r dair amgueddfa yn ffurfio rhan ganolog o strategaeth ddiwydiannol Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC).
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid ariannu eraill, mae £40m yn cael ei fuddsoddi mewn ardaloedd Amcan Un i ddathlu ein treftadaeth ddiwydiannol. Bydd agoriad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn 2005, a fydd yn adrodd hanes diwydiant a blaengaredd Cymru, yn ganolbwynt arbennig ar gyfer hanes diwydiannau o bob math yng Nghymru.
Mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y Gweinidog yn cyrraedd am 14.00 ddydd Mercher 8 Medi. Mae croeso i bapurau a chylchgronau anfon gohebwyr a ffotograffwyr.
Nodiadau i olygyddion
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Julie Williams, Amgueddfa Lechi Cymru ar 01286 870 630.