Datganiadau i'r Wasg

Hwyl yr ŵyl i bawb yn Amgueddfa Cymru

Gyda’r coed yn diosg eu gwisgoedd coch a’r tymheredd yn gostwng, rydyn ni’n paratoi at y gaeaf a dathliadau’r Nadolig!

Beth am ddianc rhag ffws a ffwdan y strydoedd eleni a mwynhau’r gaeaf gyda’r teulu? Beth am dynnu eich hetiau a’ch menig cynnes a dechrau’r gwyliau mewn steil wrth fwynhau diod a theisen yn un o gaffis yr Amgueddfa cyn mwynhau gweithgareddau di-ri Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Bydd yr amgueddfeydd ar agor dros yr ŵyl, heblaw am 24, 25 a 26 Rhagfyr, ac 1 Ionawr.

Wyth gweithgaredd gwych i’r gaeaf:

1.    Creu addurniadau Nadolig: ar benwythnos 6 a 7 Rhagfyr bydd cyfle i chi ailgylchu a chreu addurniadau eco-gyfeillgar yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, rhwng 11am - 1pm a 2pm - 4pm.

Os yw’n well gennych chi addurniadau mwy traddodiadol, bydd gweithdai i deuluoedd ar benwythnos 20 a 21 Rhagfyr yn Sain Ffagan rhwng 11am - 1pm a 2 - 4pm. Gall y plant lleiaf liwio tra bod ymwelwyr hŷn yn rhoi cynnig ar wnïo neu greu pom-poms papur.

 2.    Mwynhewch ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr o 10am – 4pm, a rhoi cynnig ar weithgareddau crefft, canu carolau, crwydro’r coridorau a... cyfarfod Siôn Corn! Wedi 3pm bydd cyfle i’r plant gael llun gyda Siôn Corn, a bydd pawb sydd wedi bihafio drwy’r flwyddyn yn cael anrheg bach.

 3.    Wedi cael digon ar ddathliadau Nadolig traddodiadol? Beth am ddod i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion ar ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr o 11am – 4am i ddysgu am Saturnalia, dathliadau canol gaeaf y Rhufeiniaid.Bydd dirgelwch dieflig sy’n addas i bawb felly cofiwch ymarfer eich sgiliau ditectif. Cyfle gwych i ddysgu am arferion a thraddodiadau Saturnalia – roedd yn amser i wledda a rhoi anrhegion, i chware gemau a mwynhau – efallai byddwch chi’n synnu pa mor debyg yw rhai o’n harferion ni heddiw!

 4.    Bydd dathliadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn fwy traddodiadol, felly galwch draw i edmygu’r goeden Nadolig yn y brif neuadd. Ar ddydd Iau 18 Rhagfyr am 2pm mae côr staff Amgueddfa Cymru yn eich gwahodd i fwynhau canu carolau Nadolig gyda mins pei a gwin y gaeaf i ddilyn.

 5.    Mae naws unigryw ac arbennig y Nadolig wedi ysbrydoli nifer o awduron dros y blynyddoedd a gwelwn themâu caredigrwydd, maddeuant, cariad anhunanol a haelioni mewn llyfrau i blant ac oedolion. Gall plant ac ymwelwyr o bob oed fwynhau crefft Siôn Corn a’i ffrindiau yn adrodd straeon tymhorol hoff. Cynhelir y cylch stori am 11am, 1pm a 3pm yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru bob penwythnos hyd at y Nadolig (Sesiwn 11am ar ddydd Sadwrn yn Gymraeg yn unig). Cofiwch archebu eich tocynnau mewn da bryd: £12 y plentyn (yn cynnwys un oedolyn a chostau archebu). Tocynnau ymlaen llaw yn unig. 

 6.    Ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig? Os ydych chi wedi bod yn chwilio’n ofer, efallai bydd yr anrheg perffaith yn Nhrysorfa ‘Vintage’ a Gwaith Llaw’r Ŵyl ar ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr rhwng 10am - 4pm. Cynhelir y ffair ar y cyd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Smock Vintage, a bydd yn llawn stondinau o ffasiwn, gemwaith, addurniadau a chrefftau cartref. Bydd rhywbeth yno at ddant pawb.

 7.    Un o negeseuon pwysicaf y Nadolig yw heddwch. Hyd yn oed yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf cafwyd cadoediad answyddogol, ond hynod symbolaidd ar 25 Rhagfyr 1914. Bu i filwyr y ddwy ochr ganu carolau, rhannu anrhegion a chware pêl-droed. Eleni, rhwng 10am-4pm rhwng 19 Rhagfyr a 4 Ionawr, bydd cyfle i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gofio hyn drwy ysgrifennu negeseuon heddwch i’w hongian ar y goeden Nadolig.

 8.    Artes Mundi yw arddangosfa a gwobr gelf weledol fwyaf cyffrous Cymru, ac mae i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 22 Ionawr. Beth am ymateb i’r arddangosfa drwy greu eich gwaith celf eich hun gyda deunyddiau a gweithgareddau’r Cert Celf bob dydd Sadwrn, 10am-4pm.

  

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru. 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

– Diwedd –