Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Wlân Cymru yn mynd i ysbryd y Nadolig

Os ydych chi’n chwilio am anrhegion gwahanol eleni, cofiwch am Ffair Grefftau’r Nadolig yn Amgueddfa Wlân Cymru ar ddydd Sadwrn 29 Tachwedd.

Rhwng 10am-3pm, bydd yr Amgueddfa hardd ym mhentref Dre-Fach Felindre yn llawn stondinau yn gwerthu amrywiaeth o grefftau a nwyddau cartref, o decstilau, cardiau a sebon, i glustogau, gwaith gweu, crefftau pren a ffotograffau.

Ar ôl bwrlwm y siopa, gall ymwelwyr ymlacio yn y caffi rhwng 10am-4.30pm a mwynhau teisennau a phasteiod cartref neu ginio ysgafn.

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn lleoliad unigryw sy’n adrodd stori syfrdanol. Gall ymwelwyr ddysgu am bob rhan o’r broses, o ddafad i ddefnydd, ac edmygu’r adeiladau rhestredig â’r peiriannau hanesyddol wrth eu gwaith.

Gall teuluoedd fwynhau taith arbennig Y Stori Wlannog, creu canllaw eu hunain i greu a defnyddio gwlân a rhoi cynnig ar gardio, nyddu a gwnïo yn ystod y diwrnod.

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

DIWEDD