Datganiadau i'r Wasg

Dechrau Hwyl yr Ŵyl ar y Glannau!

Ymunwch â ni’r penwythnos hwn pan fydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn fôr o grefftau a charolau, ac yn croesawu Siôn Corn a pengwiniaid animatronig anhygoel!

Ar ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr rhwng 12pm-4pm bydd cyfle i deuluoedd fwynhau pengwiniaid animatronig 8 troedfedd o daldra a chreaduriaid rhyfeddol fel Urving Mackerel Esquire. Bydd y gwisgoedd gwych, y cymeriadu a’r sgwrsio smala yn siŵr o ddiddanu ymwelwyr.

Bydd Siôn Corn hefyd yn galw draw i adrodd straeon Nadoligaidd, a rhifyn gaeafol o Gwyddoniaeth Strydyn dangos i ymwelwyr sut i greu eira mewn 10 eiliad. Bydd Olaf y dyn eira o Frozen hefyd yn croesawu ymwelwyr ac yn fwy na pharod i gael tynnu ei lun.

Gellir archebu lle i’r plant mewn dau weithdy crefftau. Am 11am bydd cyfle i blant 7 oed a hŷn i greu Pen Carw Llychlyn cardfwrdd (£2.50yp) ac am 1.30pm, gall oedolion ddangos eu sgiliau wrth greu Torch Nadoligaidd (£5yp).

Byddwn ni hefyd yn dangos yr animeiddiad o glasur Dylan Thomas A Child’s Christmas in Wales eto eleni (dydd Sul 7 Rhagfyr), gyda sgwrs gan y cyfarwyddwr Dave Unwin i ddilyn.

Gan edrych ymlaen at ddigwyddiadau’r penwythnos dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa: “Dim ond dechrau yw hyn ar ddathliadau’r Nadolig eleni – bydd rhywbeth yma i ddiddanu pob aelod o’r teulu. Mae’r Amgueddfa yn lle gwych i ymgolli, drwy ddilyn taith hanesyddol drwy’r orielau neu ddysgu am 300 mlynedd a mwy o ddiwydiant a blaengaredd Cymru.”

Ond mae mwy i ddod. Dros yr wythnosau nesaf bydd yr Amgueddfa yn cynnal Cwis Nadolig (dydd Iau 11 Rhagfyr, 7pm), Ffair Wydr Nadoligaidd (dydd Gwener 12 i ddydd Sul 14 Rhagfyr, 10am-4pm), Ffair Vintage a Gwaith Llaw y Nadolig (dydd Sadwrn 13 Rhagfyr, 10am-4pm) a sgwrs gan Roy Noble (dydd Sul 14 Rhagfyr, 2pm) fydd yn adrodd hanes ei yrfa a sut y daeth yn llais cyfarwydd ar deledu a radio Cymru.

Cofiwch hefyd am siop yr Amgueddfa, sy’n llawn syniadau am roddion Nadoligaidd – gemwaith, bwydydd traddodiadol, rygiau a blancedi Cymreig a digonedd i lenwi hosanau’r plantos.

Am fanylion pob digwyddiad ewch i http://www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe/ neu ffoniwch (029) 2057 3600.

DIWEDD