Datganiadau i'r Wasg

Ymarfer i’r ymennydd yng Nghwis Nadolig y Glannau

Oes gennych chi wybodaeth gyffredinol dda? Galwch draw i gystadlu yng Nghwis Nadolig gwahanol Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Iau 11 Rhagfyr am 7pm.

Cynhelir y cwis yn Oriel y Warws ac yn profi gwybodaeth y cystadleuwyr am gerddoriaeth y byd, byd y ffilmiau a hanes y cerdyn Nadolig, yn ogystal â rownd gwrthrychau dirgel! 

Dywedodd y Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry: “Casglwch dîm o ffrindiau – mae chwech yn rhif da – ac am bris o £3.50 fe gewch chi wydraid o win y gaeaf, danteithion ar y bwrdd a noson o gwestiynu gwallgo.” 

I archebu tocyn, ffoniwch (029) 2057 3600 neu galwch yn siop yr Amgueddfa.