Datganiadau i'r Wasg

RHUFEINIAID CAERLLION YN DATHLU PEN-BLWYDD MAWR!

Bydd yr Ail Leng Awgwstaidd, sef Lleng Rhufeinig Caerllion, yn dathlu ei ben-blwydd yn 2000 oed ar 23 Medi 2004, a bydd Amgueddfa'r Lleng Rufeinig wrth law i nodi'r achlysur pwysig hwn ar ffurf darlith gan yr archaeolegydd Rhufeinig enwog, Mark Hassall.

Byddai'r Ymerawdwr Augustus, y dyn sefydlodd y Lleng, wedi dathlu gyda gorymdeithiau a brwydrau gladiatoriaid yn yr Amffitheatr, ond bydd ein dathliadau ni eleni ychydig yn llai gwaedlyd!

I ddathlu'r pen-blwydd pwysig hwn, bydd Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yn llwyfannu darlith gan ddarlithydd Archaeoleg Rufeinig Prifysgol Llundain, Mark Hassall. Bydd y grŵp ail-greu, yr Ermine Street Guard yn bresennol fel gwarchodlu anrhydeddus y llefarwr ac yn gorymdeithio gyda baner y Lleng. Wedyn bydd croeso i bawb sydd â thocyn ddod i'r Amgueddfa i yfed llwncdestun i iechyd y Lleng ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

"Mae'n beth gwych bod yr Amgueddfa'n cadw traddodiad mor hen," meddai Richard Brewer, Ceidwad Archaeoleg yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd. "mae'n dod â hanes yn fyw ac mae'n beth da bod y gymuned leol yn cael uniaethu â'r bobl fu'n byw yn eu pentref ers lawer dydd."

Bydd y ddarlith yn digwydd yn Neuadd Ysgol Waddoledig Caerllion am 7pm ar 23 Medi. Gallwch brynu tocynnau ymlaen llaw am £3 yr un o Amgueddfa'r Lleng Rufeinig neu drwy ffonio 01633 423134.

Mae'r amgueddfa'n cynnig mynediad am ddim diolch i gymorth oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.