Datganiadau i'r Wasg

Dadorchuddio "Miner - Votty"

Bydd paentiad sy'n dangos y tu mewn i gwt pwyso yn un o chwareli pwysicaf Cymru yn cael ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf wythnos yma, yng Nghanolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog.

Cafodd y darlun manwl a hynod ddiddorol hwn ei baentio ym 1962 gan David Davies, ac mae'n dangos y cwt yn Chwarel y Foty, uwchben Blaenau Ffestiniog.

"Rai misoedd yn ôl, prynodd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru y darlun "Miner - Votty", gan David Davies, ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Paentiwyd y darlun ym 1962 ac, hyd y gwyddom, nid yw erioed wedi cael ei arddangos yn gyhoeddus." meddai Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis.

"Yn briodol iawn, bydd yn cael ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Cyngor Gwynedd am roi cyfle i ni ddefnyddio Oriel Canolfan Maenofferen.

"Rydym yn awyddus i wybod mwy am y darlun a'r arlunydd, a byddem wrth ein bodd pe bai pobl yn cysylltu â mi os oes ganddynt unrhyw wybodaeth ddiddorol."

Yn cael ei ddangos hefyd bydd y "Car Gwyllt", a ddefnyddid gan y dynion a oedd yn gweithio yn Chwarel Graig Ddu, Blaenau Ffestiniog i ddod i lawr yr incleiniau. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys eitemau perthnasol eraill o gasgliad yr Amgueddfa, er enghraifft, "Ticad talu" o Chwarel Maenofferen a llyfr rheolau ar gyfer 1945 o Chwarel yr Oakley.

Yn edmygu'r darlun yn ystod ymweliad diweddar a'r Amgueddfa Lechi , dywedodd Alun Pugh, Gweinidog y Cynulliad dros Diwylliant, Yr Iaith Gymraeg a Chwareon:

"Mae'r darlun yma yn bortread realistig o fywyd yn y diwydiant llechi yng ngogledd orllewin Cymru. Rwy'n falch fod pobol lleol yn mynd i gael cyfle i fwynhau'r darlun yma ynghyd a gweld eitmau eraill o ddiddordeb o'r diwydiant llechi er mwyn dysgu mwy am y diwydiant fu'n chwarae rhan mor bwysig yn eu cymuned. '

Bydd y darlun "Miner - Votty" yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith yr arlunydd Pip Knight-Jones, y trefnwyd arddangosfa o'i gwaith gan Gyngor Gwynedd i gyd-fynd â chyhoeddi ei llyfr Aspects of Welsh Slate. Gwasg Carreg Gwalch yw'r cyhoeddwyr.

Agorir yr arddangosfa ar Nos Fawrth, Medi 14 2004 yng Nghanolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog am 7pm. Bydd yr arddangosfeydd ar agor o Fedi'r 16eg hyd Hydref y 23ain 2004.

Mae'r amgueddfa'n cynnig mynediad am ddim diolch i gymorth oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.