Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor ger Wrecsam - Arteffactau o ddiwedd yr Oes Efydd a ganfuwyd yng nghymuned yr Orsedd yn drysor

Heddiw (26 Mawrth 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Gogledd Orllewin Cymru bod celc o ddau arteffact aur y credir eu bod yn dyddio o tua 1000-800 CC, neu 3,000-2,800 o flynyddoedd yn ôl, yn drysor.

Cafodd y celc o ddwy fodrwy aur fylchgrwn, neu fodrwyau cudyn, ei ddarganfod yng nghymuned yr Orsedd ym mis Mawrth 2013 gan Mr John Adamson.

Cafodd yr arteffactau eu canfod ychydig fetrau ar wahân wrth i Mr Adamson ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm. Cafodd yr arteffactau eu claddu yn wreiddiol gyda'i gilydd mewn un celc ond roeddent wedi cael eu symud a’u gwahanu, gan waith clirio ffos diweddar mae’n debyg.

Cafodd y darganfyddiad ei adrodd ar wahanol adegau i Vanessa Oakden ac Elizabeth Stewart, Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl, cyn i archaeolegwyr yn Amgueddfa Cymru gael eu hysbysu.

Mae’r modrwyau wedi’u gwneud o eurddalen. Mae eu meintiau tebyg (y ddwy tua 3.5cm mewn diamedr ac yn pwyso 8-9g) a’r patrymau arnynt yn awgrymu iddynt gael eu gwisgo fel pâr. Mae’r wynebau crwn wedi’u haddurno’n gywrain gyda chyfres o endoriadau paralel a modrwyau cylchol, sy’n creu patrwm trawiadol. Siâp deugonigol oedd iddynt yn wreiddiol, ond maent wedi newid siâp o gael eu gwasgu dan y ddaear.

Byddai’r sawl oedd yn gwisgo’r modrwyau hyn yn berson cyfoethog o statws uchel mewn cymuned ar ddiwedd yr Oes Efydd. Fodd bynnag, nid yw archaeolegwyr yn siŵr os mai fel clustlysau neu i glymu cudynnau o wallt y caent eu defnyddio.

Mae nifer fawr o fodrwyau cudyn yn cael eu darganfod ym Mhrydain, Iwerddon a Ffrainc. Mae enghreifftiau tebyg wedi eu canfod ar draws gogledd a gorllewin Cymru, gogledd Lloegr a de’r Alban ac yn ne ddwyrain Lloegr.

Yng Nghymru, mae modrwyau cudyn wedi cael eu darganfod yn Gaerwen, Ynys Môn; Pen y Gogarth, Conwy; a Chasnewydd, Sir Benfro. Mae’r patrwm arfordirol hwn yn awgrymu cysylltiadau masnachu a chyfathrebu posibl rhwng cymunedau o Gymru ac Iwerddon ar ddiwedd yr Oes Efydd.

Mae dadansoddiad o’r aur gan Mary Davis, Prif Swyddog Gwasanaethau Dadansoddol, Amgueddfa Cymru, yn dangos bod y modrwyau wedi eu gwneud o aur o safon uchel gydag ychydig o arian a chopr hefyd ynddynt. Er nad yw’n bosibl nodi tarddiad yr aur yn bendant, mae’n bosibl mai aur o ffynhonnell lifwaddodol o Gymru neu Iwerddon ydyw.

Wedi cael eu prisio yn annibynnol, bydd y ddwy fodrwy yn cael eu caffael gan Amgueddfa Wrecsam, gan ddefnyddio arian o fenter Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru:

“Roedd llawer o addurniadau aur yn cael eu defnyddio a’u claddu yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ystod yr Oes Efydd. Mae’r modrwyau bychan ond cywrain hyn yn ychwanegiad arall i’r patrwm sy’n awgrymu cysylltiad hir rhwng cymunedau o Iwerddon a rhannau eraill o Ewrop Môr Iwerydd.

“Rydym yn credu bod y gwrthrychau aur cyflawn a gwerthfawr hyn wedi eu claddu yn ofalus mewn lleoliadau ynysig fel rhoddion i’r duwiau, ar ddiwedd oes eu perchnogion efallai.”

Dywedodd Steve Grenter, Rheolwr Gwasanaethau Treftadaeth yn Amgueddfa Wrecsam:

“Rydym wrth ein bodd yma yn Amgueddfa Wrecsam ein bod wedi caffael y modrwyau cudyn hyn ac rydym yn ddiolchgar i Amgueddfa Cymru a’r project Saving Treasures, Telling Stories am eu cymorth. Rydym yn edrych ymlaen at gael dangos y modrwyau yn yr amgueddfa ochr yn ochr â chelc yr Orsedd, gafodd ei ddarganfod yn 2002.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.  

– Diwedd – 

Notes to Editors:

1. The Portable Antiquities Scheme in Wales (PAS Cymru) is a mechanism to record and publish archaeological finds made by members of the public. It has proved a highly effective means of capturing vital archaeological information, while engaging with non-traditional museum audiences and communities.

2. Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, in partnership with PAS Cymru and The Federation of Museums and Art Galleries of Wales (The FED), has recently received a confirmed grant of £349,000 from the Collecting Cultures stream of the Heritage Lottery Fund.

For 5 years from January 2015 – December 2019, the project Saving Treasures, Telling Stories will ensure a range of treasure and non-treasure artefacts can be purchased by accredited local and national museums in Wales. The artefacts purchased will date from the Stone Age to the seventeenth-century AD. 

A three year programme of Community Archaeology Projects will be delivered across Wales, working with local museums, metal-detecting clubs, local communities and target audiences. 

A distinctive website will be developed for PAS Cymru and hosted on the Amgueddfa Cymru website. This will also become the focus for up-to-the-minute information about treasure and non-treasure finds reported across Wales each year. Through the projects, archaeological collecting networks will be set up and a range of training, skill-sharing, bursaries and volunteering opportunities will be delivered. 

3. Making History’. Redevelopment Project at St Fagans National History Museum.

Wales’s archaeology collections will eventually be redisplayed in new galleries at St Fagans National History Museum in Cardiff.  This will be the first time that national collections of archaeology and cultural, industrial and social history will be displayed together in an open-air museum.  The project will also see the creation of an open-air archaeology zone and the re-imagining of two buildings – an Iron Age Farm and a Medieval Princes’ Court.