Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru – digwyddiadau ac arddangosfeydd Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2015

Yn dilyn rhaglen helaeth o ddigwyddiadau llynedd i nodi 100 mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae Amgueddfa Cymru yn parhau i gofio’r rhyfel eleni gyda chyfres o arddangosfeydd, digwyddiadau a phrojectau newydd ar draws y saith amgueddfa.

 

Yn 2015, bydd gweithgareddau Amgueddfa Cymru yn canolbwyntio ar fyw drwy ryfel a themâu colled a chofio, gan edrych ar yr effaith ar bobl adref yn ogystal â’r rhai hynny oedd yn ymladd ac yn gweithio ar faes y gad. Bydd Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau ledled Cymru er mwyn edrych ar y cysylltiadau rhwng profiadau’r gorffennol a’r presennol o ryfel, ac yn galluogi mwy o bobl i weld ein casgliadau drwy ddigwyddiadau a chyfryngau digidol.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar draws yr amgueddfeydd yn 2015:

 

Dros y penwythnos bu ymwelwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn helpu gwyddonwyr yr amgueddfa i blannu, ffeirio a chynaeafu hadau pabi ar y ddôl drefol y tu allan i’r Amgueddfa i gofio pawb a fu farw mewn rhyfeloedd. Am weddill cyfnod y cofio, bydd y pabi yn blodeuo’n flynyddol a bydd y ddôl drefol yn lle i ymgasglu a myfyrio.

 

Bydd arddangosfa i gofio Cadoediad Nadolig 1914 hefyd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 21 Ebrill - 31 Mai. Mae’r arddangosfa’n dathlu’r cadoediad enwog rhwng milwyr yr Almaen, Prydain a Ffrainc, pan gafodd anrhegion eu cyfnewid, carolau eu canu, cyrff o’r ddwy ochr eu claddu ar y cyd a gêm bêl-droed ei chwarae.

 

Bydd yr arddangosfa ‘Angau o’r Awyr’ i’w gweld yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, tan fis Hydref 2015. Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar brofiadau milwyr ar hyd y canrifoedd drwy ddatblygiad arfau a thaflegrau.

 

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn cynnal arddangosfa fydd yn trafod y berthynas rhwng arwyddocâd diwylliannol y pabi a gwyddoniaeth bioamrywiaeth. Bydd ‘Pabi’r Coffáu’ i’w weld o 4 Gorffennaf tan fis Hydref.

 

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn canolbwyntio ar recriwtio yn yr arddangosfa newydd ‘Dros Ryddid ac Ymerodraeth’ fydd yn agor ym mis Gorffennaf 2015. Bydd yr arddangosfa’n edrych ar yr ymateb o fewn cymunedau’r chwareli llechi i ymgyrch recriwtio’r Rhyfel ym 1914-15.

 

Yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, profiadau glowyr cyffredin a drodd yn dwnelwyr ar Ffrynt y Gorllewin fydd dan sylw yn yr arddangosfa ‘Dai a Tomi’, sydd i’w gweld tan fis Medi 2015. Bu grwpiau cymunedol yn ymwneud â’r arddangosfa drwy gasglu a rhannu’r straeon hyn. Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru o fis Medi 2015 ymlaen.

 

Bydd gan Big Pit arddangosfa arall o fis Hydref 2015 fydd yn edrych ar effaith y rhyfel ar ddynion a menywod oedd yn gweithio yng Nghymru, sef ‘Gwaith a Buddugoliaeth: Diwydiant Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf’.

 

Mae gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru raglen lawn o ymgysylltu cymunedol a gweithgareddau i’r teulu eleni. Ym mis Gorffennaf bydd llwybr Castell Sain Ffagan yn cael ei agor, yn adrodd hanes y Castell yn ystod y rhyfel a’i ddefnydd fel ysbyty ar gyfer milwyr wedi’u clwyfo. Mae rhaglen o sgyrsiau a gweithgareddau i’r teulu wedi ei chynllunio ar gyfer y flwyddyn fydd yn datgelu rhywfaint o hanes cudd y castell.

 

Project arall cyffrous yw’r bartneriaeth gyda Music Theatre Wales a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ‘Make an Aria’. Mae aelodau o’r lluoedd arfog a myfyrwyr o’r coleg wedi bod yn astudio gwrthrychau o’r cyfnod, a bydd y myfyrwyr yn cyfansoddi cerddoriaeth mewn ymateb i hyn, i’w pherfformio yn yr Amgueddfa ym mis Gorffennaf 2015.

 

Mae rhaglen ddigwyddiadau ac ymgysylltu cymunedol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cael ei hariannu yn rhannol gan Grant Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog, sy’n cefnogi digideiddio ac arddangos casgliadau’r Lluoedd Arfog a rhaglenni cysylltiedig fel rhan o broject ailddatblygu mawr yn Sain Ffagan.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn digideiddio’i chasgliadau er mwyn i gynulleidfa ehangach allu eu mwynhau. Bydd y gwaith yn parhau ar greu cronfa ddata ddigidol newydd ar y we ar gyfer gwrthrychau o’r Rhyfel Byd Cyntaf yng nghasgliadau’r Amgueddfa.

 

Mae mwy o fanylion am ein rhaglen bedair blynedd ar www.amgueddfacymru.ac.ukneu www.cymruncofio.org.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd.

 

 

Diwedd