Datganiadau i'r Wasg

Lansio Llwybrau Llafar Sain Ffagan: Pecyn Dysgu Cymraeg

Sefydliad Gweithwyr Oakdale, Amgueddfa Werin Cymru
Dydd Mercher, 6 Hydref 11.00 am
gydag Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon < br/> a Jane Davidson, Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Addysg a Dysgu gydol Oes

Project dysgu newydd sy'n torri tir newydd yw Llwybrau Llafar sy'n galluogi tiwtoriaid Cymraeg i ddefnyddio Amgueddfa Werin Cymru fel adnodd cyffrous a hygyrch i oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Er bod Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) yn enwog am eu gwaith addysg gyda phlant a phobl ifanc, mae Llwybrau Llafar yn enghraifft o'u gwaith pwysig gyda'r sector addysg i bobl dros 16 oed.

Llwybrau Llafar yw'r project cyntaf o'i fath yn Ewrop. Mae'n defnyddio'r profiad unigryw o ymweld â'r Amgueddfa Werin, ei chasgliadau, ei hadeiladau a'i staff arbenigol ac yn cymysgu hyn ag anghenion ymarferol staff a dysgwyr o bob cwr o Gymru. Gan ddefnyddio Llwybrau Llafar, gall tiwtoriaid a myfyrwyr ddilyn rhaglen hyblyg o ddigwyddiadau a dyddiadau i ymarfer eu Cymraeg ar daith drwy hanes Cymru. Ac yn bwysicach na dim, wrth grwydro'r safle 104 erw caiff y dysgwyr gyfle i sgwrsio yn Gymraeg.

Mae'r pecyn yn hawdd ei gyrchu drwy wefan AOCC sef http://www.nmgw.ac.uk/education/llwybrau. Datblygwyd y project hwn ar y we mewn ymateb i Iaith Pawb, cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad i greu Cymru ddwyieithog. Cafodd £20,000 gan ELWa a rhoddodd AOCC gyllid cyfatebol mewn da.

Cennard Davies yw awdur y pecyn sy'n cynnwys canllawiau i diwtoriaid, taflenni gwaith i fyfyrwyr a Helen Prosser yw'r golygydd. Cafodd ei ysgrifennu'n arbennig gan y ddau arbenigydd hyn i adlewyrchu'r dulliau diweddaraf o ddysgu ieithoedd.

Croesawodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon yr adnodd newydd hwn gan ddweud, "Fel un sy'n dysgu Cymraeg, rwy'n gweld gwerth y project yma sy'n datblygu sgiliau iaith drwy ddysgu mwy am ein hanes a'n diwylliant. Mae'r cynllun blaengar hwn yn ffitio'n berffaith gydag amcanion Iaith Pawb, ac rwy'n siwr y bydd dysgwyr yn cymryd y cyfle i fynd ati i ymarfer eu Cymraeg yn Amgueddfa Werin Cymru."

Mae Ceri Black, Pennaeth Addysg AOCC yn gweld y project fel ffordd newydd o ddysgu iaith drwy hanes:

"Mae staff perthnasol yn yr Amgueddfa Werin wedi cael hyfforddiant i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith. Mae'r rhain yn cynnwys gofalwyr, staff curadurol ac aelodau o'r Adran Addysg. Roedd ymateb y tiwtoriaid a'r myfyrwyr i'r deunyddiau a'r cysyniad o ddefnyddio'r amgueddfa fel adnodd dysgu yn frwd yn ystod y cyfnod arbrofol. Dyma oedd cyfle cyntaf llawer o'r myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau iaith y tu allan i'r dosbarth, mewn awyrgylch lle mae pobl yn siarad Cymraeg yn naturiol â'i gilydd.

"Mae'r myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru wrth wella eu sgiliau iaith. Rydyn ni'n falch dros ben i gyflwyno'r project hwn ar y we i diwtoriaid a'r gobaith yw y bydd yr Amgueddfa Werin yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddysgu am hanes Cymru wrth ddysgu Cymraeg," meddai.

Bydd yr achlysur yn dechrau am 11.00 am a'r Gweinidogion yn cyrraedd am 11.30 am. Ar ôl gwrando ar gyflwynid i'r pecyn, bydd y Gweinidogion yn ymuno â grŵp o ddysgwyr yn rhoi'r pecyn ar waith yn ffermdy Cilewent.

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.