Datganiadau i'r Wasg
Tymor gorau erioed y Pwll Mawr
Dyddiad:
2004-10-12Mae llwyddiant y Pwll Mawr wedi rhoi hwb i ffigurau ymwelwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru sy'n golygu bod dros hanner miliwn o ymweliadau wedi bod mewn cyfnod o dri mis. Mae AOCC yn gyffredinol yn mwynhau ei haf mwyaf llwyddiannus ers 2001, sef blwyddyn gyntaf polisi mynediad am ddim Llywodraeth y Cynulliad.
Mae'r Pwll Mawr wrth galon Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, ac mae ei lwyddiant parhaus wedi helpu i ddenu rhagor o ymwelwyr i'r ardal o Gymru, y Du a'r tu hwnt.
Cafodd y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru ei ail-lansio'n swyddogol yn Ebrill 2004 ar ôl cwblhau gwaith ailddatblygu gwerth £7.2 miliwn, oedd yn cynnwys grant gwerth £5.3 miliwn oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ynghyd â chymorth pellach oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad, y Bwrdd Croeso a nifer o ymddiriedolaethau a chronfeydd preifat.
Mae'r ailddatblygiad yn rhan annatod o strategaeth ddiwydiannol £40 miliwn AOCC, sy'n cwmpasu tair o'n hamgueddfeydd - y Pwll Mawr, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis - ynghyd ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy'n cael ei datblygu yn Abertawe.
Mae'r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru ar agor rhwng 9.30 am a 5 pm saith niwrnod yr wythnos o ganol Chwefror tan ddiwedd Tachwedd. Mae'r teithiau danddaear yn rhedeg yn gyson rhwng 10 am-3.30 pm. Mae'r amgueddfa'n cynnig mynediad am ddim diolch i gymorth oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.