Datganiadau i'r Wasg

Rhyw ddrwg yn y caws

(a'r goedwig, y castell a'r bythynod!)
Amgueddfa Werin Cymru — ai hon yw'r Amgueddfa agosaf at galonnau ysbrydion Cymru?...
Wythnos Calan Gaea

Pan fo tyddyn chwarelwr yn cael ei symud o lethrau'r Wyddfa i Amgueddfa Werin Cymru, beth sy'n digwydd i ysbrydion y teulu fu'n byw rhwng dau fyd ers canrifoedd? Bu bwthyn bach Llainfadyn o Rostryfan yn gartref i ddwsinau o blant o'r deiliaid cyntaf ym 1762 hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Mae aelodau staff ac ymwelwyr sydd wedi croesi trothwy'r adeilad syml hwn o gerrig anferth, wedi gweld a chlywed plant yn chwarae, yn chwerthin ac yn cr