Datganiadau i'r Wasg

Mae Calan gaea' ar y ffordd ac mae'r ysbrydion nôl i fartsio yng Nghaerllion

Hydref

Mae 2,000 o flynyddoedd o hanes, a gwerth 2,000 o flynyddoedd o ysbrydion yn nhref Caerllion. Does fawr syndod felly bod milwyr Rhufeinig, mynachod a merched Oes Fictoria i'w gweld yn crwydro strydoedd a thai'r dref.

Er mwyn dathlu yn lle dychryn, bydd Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yn cynnal parti Calan Gaeaf nos Wener, 29 Hydref rhwng 6-8pm. Bydd yna ddigonedd o hwyl i ddarpar-wrachod a dewiniaid, o brofi eu dewrder yn 'Nhwnneli Hades' i drio peidio â chwerthin ar 'Ddarnau Difyr Caesar'. Ac i gloi'r noson, bydd cystadleuaeth gwisg ffansi yn oriel yr amgueddfa.

"Mae'r Parti Calan Gaea'n llawer o hwyl," meddai Rheolwraig yr Amgueddfa, Bethan Lewis, "Mae gweld yr holl blant wedi gwisgo i fyny yn rhoi cynnig ar y gemau i gyd yn wych; ac mae hi'n ffordd dda i blant lleol ddathlu'r achlysur yn ddiogel."

Ond beth am ysbrydion go iawn Caerllion? Mae mwy nag un wedi dweud eu bod wedi clywed milwyr yn martsio o gwmpas ymyl y Gaer. Mae rhai o drigolion y tai sy'n sefyll ar hyd yr hen ffordd oedd yn rhedeg o gwmpas cyrion Caerllion wedi clywed sŵn mintai o filwyr yn martsio drwy'r tai. Weithiau mae sŵn yr esgidiau hoelion a'r waedd "Sin dex, sin dex" yn ddigon i'w deffro ganol nos. Mae ambell un wedi sôn am weld mynach ym Maddondy'r Gaer, ac eraill, merch o Oes Fictoria yng nghyffiniau Gwesty'r Priory.

Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw i ddod i'r Parti Calan Gaea' Amgueddfa'r Lleng Rufeinig . Pris y tocynnau yw £1 yr un sydd ar gael o'r Amgueddfa. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01633 423134.