Datganiadau i'r Wasg

Disgyblion yn Creu Robotiaid o Sbwriel!

Heddiw (dydd Iau 10 Rhagfyr) bydd disgyblion ysgol o bob cwr o dde Cymru yn arddangos eu sgiliau gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg yn nhwrnamaint rhanbarthol y Gynghrair LEGO (FLL), yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Project ar y cyd rhwng Cynllun Addysg Beirianneg Cymru a STEM Cymru yw hwn, a bydd 12 tîm o ddisgyblion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cystadleuaeth Trash Trek. Bydd gofyn iddynt ennill cymaint o bwyntiau â phosibl mewn 2 funud 30 eiliad drwy gwblhau cyfres o dasgau gyda chit LEGO MINDSTORMS.

Dechreuodd y gwaith ar gyfer yr her yn yr hydref a bydd y timau nawr yn profi eu creadigaethau cyn iddynt gystadlu ar ddydd Iau. Byddant yn cael eu beirniadu ar ddyluniad, rhaglennu a gwytnwch y robot yn ogystal â’r project ysgrifenedig yn esbonio beth maent wedi’i ddysgu ynghylch yr wyddoniaeth a’r beirianneg y tu ôl i thema’r her.

“Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio unwaith eto gyda Chynllun Addysg Beirianneg Cymru i gynnal y digwyddiad hwn,” meddai Swyddog Addysg a Dehongli’r Amgueddfa, Leisa Bryant.

“Mae’n gyfle gwych i hybu’r sgiliau STEM – gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg – yn ogystal â rhoi llwyfan i ddisgyblion arddangos eu sgiliau a’u talent,” ychwanegodd.

“Dyma’r drydedd flwyddyn i ni gynnal Twrnamaint Rhanbarthol De Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac mae’r gystadleuaeth wedi tyfu bob blwyddyn,” meddai Huw Hall Williams o STEM Cymru.

Ychwanegodd: “Rydym wedi cyffroi’n arw ynghylch her Trash Trek eleni gan ein bod wedi gallu ymestyn y Gynghrair LEGO i ogledd Cymru, a hoffem ddiolch i’r holl ddisgyblion a’u hathrawon am gymryd rhan.”

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

  • Am fwy o wybodaeth a chyfle am luniau cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616.