Datganiadau i'r Wasg

Darlun mawr o lwyddiant yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol

Daw'r Darlun Mawr, dathliad DU-eang o ddarlunio i'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol , Dre-fach Felindre ar 28-30 Hydref.

Bydd yr artist lleol, Keith Bayliss, yn annog y teulu cyfan i ymuno yn yr hwyl wrth edrych ar yr amgueddfa ar ei newydd wedd, sy'n gartref i gasgliad Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar hanes y diwydiant gwlân.

Mae'r Darlun Mawr yn rhoi cyfle delfrydol i bawb droi eu llaw at dynnu llun wrth uniaethu â safleoedd hanesyddol ac amgylcheddol. Croeso i bawb yn y Darlun Mawr, does dim ots a ydych chi'n artist profiadol ai peidio.

Mae AOCC yn chwarae rhan bwysig yn y Darlun Mawr eto eleni, gyda digwyddiadau ym mhob un o'i chwe safle ledled Cymru. Wrth siarad cyn y digwyddiadau, dywedodd Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh:

"Mae'r cynllun yma'n syniad ardderchog - pa well ysbrydoliaeth ar gyfer artistiad y dyfodol na rhannau pwysig o hanes unigryw Cymru".

Dyma bumed flwyddyn y Darlun Mawr. Nod syml ond uchelgeisiol sydd gan Drawing Power sef