Datganiadau i'r Wasg

ADRODDIAD BLYNYDDOL AOCC YN COFNODI BLWYDDYN LWYDDIANNUS ARALL

Heddiw (28 Hydref), cyhoeddodd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ei adroddiad blynyddol am y cyfnod 1 Ebrill 2003 – 31 Mawrth 2004.

Bu 2003-04 yn flwyddyn arbennig o lwyddiannus i AOCC, gyda chwblhau dau broject sy'n rhan bwysig o'r strategaeth ddiwydiannol, sef yr ail-ddatblygiadau ym Mhwll Mawr, Blaenafon, a'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre. Bu hefyd yn gyfle i edrych ymlaen at agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn 2005. Unwaith eto felly, bu modd ehangu ar y profiad a gynigir i ymwelwyr wrth iddyn nhw ymweld â'r safleoedd.

Dyma drydedd flwyddyn y polisi 'mynediad am ddim' sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac unwaith eto eleni, bu'r polisi yn lwyddiant mawr gyda thros 1.2 miliwn o ymweliadau â'r safleoedd trwy Gymru — 64% yn fwy nac yn 2000-01 sef y flwyddyn cyn cyflwyno mynediad am ddim i bawb.

Ymysg uchafbwyntiau y cyfnod dan sylw oedd: