Datganiadau i'r Wasg

Campwaith Rembrandt i’w arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

O heddiw (5 Ebrill 2016), bydd portread Rembrandt van Rijn o Catrina Hooghsaet (1607-1685) i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am dair mlynedd.

Portread o’r 17eg ganrif ydyw o fenyw gyfoethog, annibynnol, 50 oed o Amsterdam. Fe’i cedwid yng Nghastell Penrhyn, gogledd Cymru, tan y llynedd pan brynodd casglwr preifat y gwaith drwy arwerthwyr Sotheby’s.

Mae bellach wedi cael ei gynnig ar fenthyciad hirdymor i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i’w arddangos yn orielau celf hanesyddol yr amgueddfa yng nghanol y brifddinas. Bydd yr Amgueddfa hefyd yn elwa o rodd o £10k gan y cyn-berchennog i ariannu rhaglen addysg.

 

Paentiwyd y llun gan un o fawrion y byd celf. Yn wir, mae’n un o bortreadau gorau Rembrandt a gyda’r esiampl gorau o’i waith ym Mhrydain.

 

Gallai Rembrandt gyfleu gwir gymeriad ac emosiwn dynol yn ei waith. Cyn hyn, diben portread oedd cyfleu statws nid personoliaeth. Roedd gonestrwydd i’w baentio oedd yn dangos unigolion mewn modd sensitif a threiddgar.

Roedd y fodel yn aelod o gymuned grefyddol Mennonaidd Amsterdam, ond drwy’r parot ar ei hysgwydd a’i dillad cain gwelwn arlliw o ddaliadau anarferol. Roedd hi’n fenyw o flaen ei hamser, ac er yn briod â gweinidog Mennonaidd roedd hi’n byw ar wahân, sy’n awgrymu bod ganddi gymeriad cryf a rhyddid ariannol.

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae hwn yn waith arbennig, sy’n golygu llawer i dreftadaeth Cymru ac yn bwysig iawn iddo. Cyrhaeddodd y paentiad Gymru yn y 1860au ac mae’n esiampl o’r cyfoeth ariannol a chenedlaethol a ddaeth yn sgil y chwyldro diwydiannol yng Nghymru.

 

“Mae’n bleser cael arddangos y gwaith yn gyhoeddus, fel y gall gyfrannu at ein dealltwriaeth o’n gorffennol a chael ei fwynhau gan gynulleidfa’r presennol.”

 

Dywedodd y perchennog eu bod yn hapus iawn i rannu eu mwynhad o’r paentiad gwych hwn â’r cyhoedd drwy ei fenthyg i Amgueddfa Cymru.

 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

“Mae’n bleser croesawu’r gwaith pwysig hwn yn ôl i Gymru. Mae’n gaffaeliad rhagorol i’r casgliad cenedlaethol ac rwy’n hynod falch fod nawdd ar gyfer rhaglen addysg ynghlwm, fydd gobeithio yn tanio diddordeb pellach mewn celf.”

 

Diolch i gymorth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

AMGUEDDFA CYMRU

Catrin Taylor

(029) 2057 3185

07920 027067

catrin.taylor@amgueddfacymru.ac.uk