Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

31 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6

Brenhines y Nos

14 Medi 2004

Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd
7 Medi – 28 Tachwedd

Caiff cerfwedd brin o un o dduwiesau Babilon — 'Brenhines y Nos' ei harddangos yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol dros dro o 7 Medi ymlaen. Mae'r darn 4,000 oed hwn yn un o weithiau celf pwysicaf hen Mesopotamia (Irac heddiw).

Celf Drwy Lygad Craff

14 Medi 2004

Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd
18 Medi 2004 – 16 Ionawr 2005

Beth sy'n sbarduno rhywun i gasglu celf

Gweinidog yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru

6 Medi 2004
Ddydd Mercher, 8 Medi, bydd Alun Pugh AC, Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Profiad y Pictiwrs - Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn dangos ei ffilm gyntaf ers 35 mlynedd

24 Awst 2004

1.00pm 24.08.2004

Os ydych chi'n ddigon hen i gofio'r amser pan roedd sinemâu yng nghanol y dre, gyda thywyswragedd a cherddoriaeth danbaid ar yr organ, bydd atgofion melys gennych chi am fynd i'r 'pictiwrs'. Hen sinemâu Deco mawr crand, neuaddau pentref a Sefydliadau'r Gweithwyr oedd y rhain am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif. Yfory, bydd Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn Amgueddfa Werin Cymru yn agor y Pictiwrs i ymwelwyr am y tro cyntaf ers iddo ddod Amgueddfa ym 1995 ac am y tro cyntaf ers i'r fframiau seliwloid olaf wibio ar draws y sgrin cyn i'r pictiwrs gau eu drysau am y tro olaf.

GWELLIANNAU AOCC O FUDD I AMGUEDDFA NEWYDD ABERTAWE

13 Awst 2004
Heddiw, 13 Awst, ategodd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) ei ymrwymiad i wneud mwy fyth o'i gasgliadau'n hygyrch i'r genedl wrth gadarnhau sut y bydd yn gwario grant gwerth £3.5 miliwn oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad.

CYHOEDDI GWELLIANNAU I AMGUEDDFA LECHI CYMRU

13 Awst 2004
Heddiw, 13 Awst, ategodd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) ei ymrwymiad i wneud mwy fyth o'i gasgliadau'n hygyrch i'r genedl wrth gadarnhau sut y bydd yn gwario grant gwerth £3.5 miliwn oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad.