Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

64 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11

HWYL HAF CREFFTUS AR Y LECHEN

14 Gorffennaf 2004
Os byddwch chi yn chwilio am weithgareddau llawn hwyl i wneud gyda'r plant yn ystod gwyliau'r haf, yna dewch draw i Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis.

Ta-ta Troy - Rhyfelwyr Rhufeinig sy'n Rhagori!

12 Gorffennaf 2004
Os ydych chi wedi hen alaru ar Brad Pitt, Orlando Bloom a'r hen Roegiaid, Caerllion yw'r lle i chi yr haf yma, wrth i'r Rhufeiniaid ddangos mai nhw yw gwir filwyr yr hen fyd.

SIOE FILWROL FAWREDDOG YN AMGUEDDFA'R LLENG RUFEINIG, CAERLLION

1 Gorffennaf 2004
Caerllion fydd canolbwynt y byd Rhufeinig ar 10/11 Gorffennaf, wrth i Sioe Filwrol Fawreddog Amgueddfa'r Lleng Rufeinig ddychwelyd i'r dref.

'Does unman debyg i gartref ... i 'Nora'!

30 Mehefin 2004
Mae 'Nora', yr injan stem cyntaf i redeg ar Reilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon wedi dod adref i'r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru ar ôl bod i ffwrdd am un flwydd ar hugain, a chaiff ei arddangos yn yr hen weithfeydd glo. Cludwyd 'Nora', a'r wagenni eraill sydd wedi cael eu storio ar Reilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon ac yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan hyd nawr i'r Pwll Mawr mewn ymgyrch fawr a gymrodd sawl diwrnod.

Amgueddfa Newydd yn Taflu Goleuni ar Lannau Abertawe

24 Mehefin 2004
--Datganiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw hwn--

Cyrhaeddodd cynllun arloesol i godi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe garreg filltir arall heddiw, wrth i'r Prif Weinidog Rhodri Morgan a'r Gweinidog Diwylliant Alun Pugh droi cyflenwad pwer yr adeilad ymlaen.

Madonna of the Pinks Raphael - ar daith yng Nghymru

24 Mehefin 2004
Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd
3 Gorffennaf - 19 Medi
'Madonna of the Pinks': Y Forwyn a'r Plentyn yn Eidal y Dadeni Ar daith o'r Oriel Genedlaethol, Llundain

Bydd campwaith Raphael, Madonna of the Pinks, ar fenthyg i'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol dros yr haf (3 Gorffennaf - 19 Medi) gan roi cyfle i'r cyhoedd yng Nghymru weld y gwaith arbennig hwn yn rhan o daith o gwmpas y DU.