Datganiadau i'r Wasg
68 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 12
Gwahoddiad i Gymru for yn rhan o weledigaeth newydd
Aduniad Cyfeillion: Aduniad Faciwîs yr Ail Ryfel Byd yn Amgueddfa Werin Cymru.
Wrth i gysgodion tywyll y rhyfel ymddangos uwchben Prydain yn 1938, penderfynodd y Llywodraeth gymryd camau i sicrhau diogelwch y plant a'r bobl mwyaf bregus mewn ardaloedd diwydiannol neu ddinesig a fedrai fod yn dargedau i ymosodiadau neu fomiau'r gelyn. Dros y blynyddoedd, symudwyd miliwn a haner o blant i ardaloedd gwledig, diogelach, miloedd lawer ohonynt i Gymru, yn cynnwys Nina Bawden, awdur y clasur i blant 'Carrie's War'. I aduno'r efaciwîs a arhosodd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'u ffrindiau a'r teuluoedd a roddodd gartref iddynt, mae Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu plant y rhyfel i gyfarfod eto ar Ddydd Gŵyl Dewi am ddiwrnod o atgofion, straeon, cerddoriaeth ac aduno.
Blasu'r Bywyd Da - Marchnad Ffermwyr yn dod i Sain Ffagan
DIFYRRWCH ARBENNIG AR ŴYL DDEWI
Gwen John ac Augustus John
Fe oedd yr artist bohemaidd rhamantus, tanbaid, hudol, mympwyol a ffefryn byd celf Fodern ddechrau'r ugeinfed ganrif. Hi oedd yr artist nwydus, preifat, cadarn, pwyllog ac ysgolheigaidd. Y brawd a'r chwaer, Augustus John (1878