Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

68 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Breuddwydion Oes Victoria
Casgliadau celf y 19eg ganrif yng Nghymru

31 Awst 2005

22 Hydref 2005–8 Ionawr 2006

Arddangosfa newydd o weithiau Cyn-Raffaelaidd, neo-Glasurol Oes Victoria, tirluniau a gweithiau genre yw Breuddwydion Oes Victoria. Cewch fwynhau'r arddangosfa yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd.

Mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar amrywiaeth a diddordebau casglwyr Cymru o Oes Victoria hyd heddiw. Mae'r casgliadau hyn yn llai adnabyddus na'r rhai a gronnwyd yng ngogledd Lloegr yn yr un cyfnod, ac a aeth i greu casgliadau pwysig ym Manceinion, Lerpwl, Newcastle a chanolbarth Lloegr.

Hwyl yr Haf yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol

10 Awst 2005

Os ydych am ddysgu mwy am gelf, crefftau neu wyddoniaeth dros y misoedd nesaf, beth am fynd am dro i orllewin Cymru i'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre?

4 DIWRNOD AR ÔL I GYMRU BLEIDLEISIO DROS UN O BEINTIADAU'R CASGLIAD CENEDLAETHOL FEL PEINTIAD GORAU PRYDAIN

5 Awst 2005

Cefnogwch AMGUEDDFEYDD AC ORIELAU CENEDLAETHOL CYMRU trwy bleidleisio nawr.

Y bleidlais hon sy'n chwilio am ‘Beintiad Gorau Prydain' yw un o ddigwyddiadau rhyngweithiol mwyaf erioed y celfyddydau gweledol.

Cofeb I Ddathlu Cysylltiad Bwysig Gyda'r Unol Daleithiau

28 Gorffennaf 2005
Bydd Americanwyr o blith Y Cymry Ar Wasgar yn ymweld â stondyn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod eleni ar gyfer coffáu Thomas Jefferson, trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau. Bydd seremoni arbennig yn cymryd lle nos Iau 4 Awst i ddadorchuddio cofeb i Jefferson wedi ei gwneud o lechen Gymreig ar ôl diwedd achlysur blynyddol Y Cymry Ar Wasgar.

Ymgyrch Haf Yn Hyrwyddo Mynediad Am Ddim – I Bawb

27 Gorffennaf 2005
'Pŵer am ddim' fydd neges fachog ymgyrch farchnata arbennig sy'n hyrwyddo Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, dros yr wythnosau nesaf fel rhan o ymgyrch genedlaethol sy'n atgoffa pobl bod mynediad am ddim i bawb i bob un o'r amgueddfeydd a weinyddir gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC).

Ymgyrch Haf Yn Hyrwyddo Mynediad Am Ddim – I Bawb

27 Gorffennaf 2005
'Ffasiwn am ddim' fydd neges fachog ymgyrch farchnata arbennig sy'n hyrwyddo'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Dre-fach Felindre dros yr wythnosau nesaf fel rhan o ymgyrch genedlaethol sy'n atgoffa pobl bod mynediad am ddim i bawb i bob un o'r amgueddfeydd, a weinyddir gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC).