Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

68 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Sioe Filwrol Rufeinig yn torri pob record

12 Gorffennaf 2005
Heidiodd ymwelwyr o bell ac agos i Gaerllion dros y sul er mwyn mwynhau'r Sioe Filwrol Rufeinig, sy'n trawsnewid y dref fodern yn hen ganolfan Rufeinig Isca.

Plant yn Cyfnewid Nikes a beics am sandalau a chleddyfau

8 Gorffennaf 2005
Anghofiwch y Playstation a'r Teledu, bydd plant yn byw hanes yn Amffitheatr Caerllion ar 9 a 10 Gorffennaf — wrth ymuno â'r Fyddin Rufeinig!

Self Portrait UK 14-19: Sut mae pobl ifanc Prydain yn eu gweld eu hunain?

6 Gorffennaf 2005
www.channel4.com/selfportraituk

Bydd y cyflwynydd teledu a'r actores o Gymru, Lisa Rogers, yn agor arddangosfa deithiol Self Portrait UK 14–19 yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd am 12pm dydd Iau, 14 Gorffennaf.

Mae'r arddangosfa bryfoclyd o hunanbortreadau gan bobl ifanc a gyflwynwyd i ymgyrch hunan-bortreadau hynod lwyddiannus Channel 4, yn rhoi cip unigryw ar hunaniaeth, straeon a diwylliannau unigryw pobl ifanc ym Mhrydain heddiw.

Amgueddfa Orau Prydain Yn Dathlu Ei Llwyddiant

6 Gorffennaf 2005
Ymunodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, â staff Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru neithiwr (5 Gorffennaf) i ddathlu llwyddiant yr amgueddfa wrth ennill Gwobr Gulbenkian eleni.

Hanes Y Diwydiant Gwlan Ar Gof A Chadw

28 Mehefin 2005
Flynyddoedd yn ôl, roedd Dre-fach Felindre'n cael ei adnabod fel Huddersfield Cymru oherwydd y diwydiant gwlân byrlymus yn y pentref bach yn Sir Gaerfyrddin. Erbyn hyn, mae'r pentref yn gartref i'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol ac i'r casgliad cenedlaethol sy'n ymwneud â'r diwydiant pwysig hwn yn hanes Cymru.

Artes Mundi

22 Mehefin 2005

Gwobr Gelf Weledol Ryngwladol Cymru

Heddiw cyhoeddodd Artes Mundi enwau rhyngwladol ei dewiswyr a'i phanel beirniaid ar gyfer ail Wobr Artes Mundi, a ddyfernir ym Mawrth 2006.