Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

68 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Maes Chwarae Newydd Sain Ffagan Yn Plesio'r Plantos Lleia'

21 Mehefin 2005
Gyda'r haul yn disgleirio yn ystod Wythnos Cyn-Ysgol, lle gwell i fynd â'r plantos bach nag Amgueddfa Werin Cymru, 100 acer o awyr iach, caeau gwyrddion, a digon o ymarfer corff i'w blino nhw'n lân erbyn amser gwely? Mae miloedd o blant bach a'u rhieni yn mwynhau mwynder Sain Ffagan bob blwyddyn, ac o'r herwydd mae'r amgueddfa newydd agor maes chwarae arbennig ar gyfer aelodau ieunegaf y teulu.

GŴyl Wyddoniaeth Caerdydd

21 Mehefin 2005
Ymunwch â'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol ar 9 Gorffennaf am ddiwrnod o weithgareddau i ddathlu pwysigrwydd gwyddoniaeth, fel rhan o Wyl Wyddoniaeth Caerdydd, sy'n cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni o 7

Goleuni a Lliw: Pumdeg o Weithiau Argraffiadol ac Ôl-argraffiadol yn yr Amgueddfa Genedlaethol

10 Mehefin 2005
Heno, siaradodd Dr Colin Bailey, Prif Guradur Casgliad Frick enwog Efrog Newydd am lansiad Goleuni a Lliw yn America. Dyma lyfr trawiadol newydd sy'n adrodd hanes casgliad celf Argraffiadol ac Ôl-argraffiadol byd-enwog Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Dywedodd: "Dyma'r llyfr cyntaf ers dros 20 mlynedd ar gasgliad Caerdydd. Fel un sydd wedi bod i Gaerdydd, rydw i wrth fy modd bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi lansio'r llyfr yma yn Efrog Newydd. Llongyfarchiadau i'r awdur Ann Sumner a'r Amgueddfa ar y llyfr ardderchog yma."

Yr wythnos orau erioed i amgueddfa orau'r DU

7 Mehefin 2005
Yr wythnos ddiwethaf, dathlodd y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru ei hwythnos brysuraf erioed. Rhwng 30 Mai a 5 Mehefin, daeth 6,836 o bobl i'r Pwll Mawr, gwta wythnos ar ôl cyhoeddi mai'r amgueddfa arbennig yma ym Mlaenafon oedd enillydd gwobr fawr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn.

Chwythu stêm i ddathlu canmlwyddiant

6 Mehefin 2005
Bydd Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn cynnal sioe arbennig ar benwythnos y 18–19 Mehefin eleni i ddathlu penblwydd ei injan stém UNA yn gan mlwydd oed. Bydd y digwyddiad, sy'n sicr o ddenu'r rheini sy'n dotio ar drenau bach, yn gyfle i bobl o bob oed fwynhau hud trenau bach stêm. Caiff ymwelwyr gyfle i deithio ar drenau bach rheilffordd gul sydd wedi eu cynnull ar y safle yn neilltuol ar gyfer y dathliad.

Dathlu GŴYl Y Gwlana Yn Yr Amgueddfa WlÂN Genedlaethol

3 Mehefin 2005
Mis Gwlana yw Mehefin yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol Dre-fach Felindre, wrth i'r amgueddfa ddathlu un o hen draddodiadau Cymru, gyda chyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan.