Datganiadau i'r Wasg
141 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24
Lansio Camau Cymraeg yn Amgueddfa Lechi Cymru
Cafodd Camau Cymraeg, pecyn ar gyfer dysgwyr sy'n defnyddio Amgueddfa Lechi Cymru fel adnodd dysgu, ei lansio yn Llanberis yn ddiweddar.
Hwylio Heno
Arddangosfa o gychod Fflat Huw Puw
Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, 1–30 Gorffennaf 2006
Siop Goffi Newydd Sain Ffagan yn Taro Deuddeg yn ôl Enzo Maccarinelli
Cafodd pencampwr y byd bocsio, Enzo Maccarinelli, gyfle am rywfaint o saib o'i raglen hyfforddi brysur er mwyn cael blasu rhai o'r danteithion ar gael yn siop goffi newydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Bwyty Bardi.
Dewch i fwynhau gogoniant gerddi Sain Ffagan
Pan fo'r tywydd fel hyn, a'r haul yn gwenu, does unman gwell i dreulio'ch amser na Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Gyda'r Ardd Rosod a'r Ardd Eidalaidd ar eu gorau ar hyn o bryd, yr Amgueddfa yw'r lle perffaith i ddianc oddi wrth holl brysurdeb bywyd bob dydd. Ymysg y digwyddiadau sydd wedi'u trefnu y mis hwn mae:
Terapin yr Ymerawdwr yn Dod i Gaerdydd
Cerflun unigryw yw Terapin yr Ymerawdwr sy'n rhan o arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd diolch i Broject Partneriaeth yr Amgueddfa Brydeinig, am y'i cerfiwyd o un darn o jâd.
Atgofion yn Sail i Efeillio Amgueddfeydd
Ddydd Sul 11 Mehefin, bydd Dr Dafydd Roberts, Curadur Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis a Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, yn cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig iawn sy'n ymwneud â hel atgofion o ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru.