Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

72 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Y Clwb Garddio, yn null y Rhufeiniaid

27 Rhagfyr 2007

Os ydych chi’n ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru dros y misoedd nesaf, cewch gyfle i weld atyniad newydd sydd ar y gweill. Yr wythnos yma, bydd gwaith yn dechrau ar ardd Rufeinig newydd yn yr Amgueddfa sydd wrth galon tref Rufeinig Caerllion.

Ffordd wahanol o ddathlu'r Nadolig

10 Rhagfyr 2007

Os ydych chi wedi cael llond bol ar yr un hen ddathliadau Nadolig, dewch draw i Big Pit, Blaenafon neu Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion i fwynhau ffordd wahanol o ddathlu.

Dathlu cynllun adfywio arobryn

10 Rhagfyr 2007

Mae project adfywio sy’n defnyddio tua 75% o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu neu wedi eu hadfer i greu amgylchedd deniadol ac addysgiadol o’r enw llwybr Tomen y Coety sy’n cysylltu Big Pit â Rheilffordd Pont-y-p?l a Blaenafon a Llynnoedd y Garn wedi ennill gwobr BALI (cymdeithas diwydiannau tirweddu Prydain).

Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar

8 Rhagfyr 2007

‘Y Ddynes Goch’ o Gymru yn heneiddio 4,000 o flynyddoedd mewn gwaith ymchwil newydd.  

 

Claddedigaeth ddynol ffurfiol gyntaf Gorllewin Ewrop - uchafbwynt orielau archeoleg newydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Ar ddangos am y tro cyntaf yng Nghymru. 

Amgueddfa Cymru - Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

7 Rhagfyr 2007

10am, dydd Iau, 13 Rhagfyr 2007
Ystafell y Llys, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Is-Lywydd, Trysorydd a chwe Ymddiriedolwr newydd ar gyfer corff llywodraethol yr amgueddfeydd cenedlaethol.

Arddangosfa ar thema caethwasiaeth yn ennill gwobr flaenllaw

6 Rhagfyr 2007
Mae staff Amgueddfa Cymru a chyrff treftadaeth eraill ledled Cymru’n dathlu ar ôl i’r project Traed mewn Cyffion ennill gwobr flaenllaw.